Mae dau ddyn wedi cael eu canfod yn euog o ddynladdiad, ar ôl i 39 o ffoaduriaid gael eu darganfod yn farw mewn cefn lori llynedd.

Gallai’r ddau, a oedd yn rhan o rwydwaith gwerth miliynau o bunnoedd oedd yn smyglo pobol, wynebu carchar am oes.

Cafodd y ffoaduriaid o Fietnam, a oedd rhwng 15 a 44 oed, eu darganfod yng nghefn y lori yn Essex fis Hydref 2019.

Roedd y ffoaduriaid wedi mygu yn y gwres poeth wrth i’r storfan deithio o Zeebrugge i Purfleet.

Rhwydwaith “farus”

Yn dilyn yr achos llys, sydd wedi bod yn mynd yn ei flaen ers 10 wythnos, cafodd yr arweinydd, Gheorghe Nica, 43, o Basildon, a dreifiwr y lori, Eamonn Harrison, 24, o Swydd Down, eu canfod yn euog o 39 achos o ddynladdiad.

Yn ogystal, cafodd y gyrrwr lori, Christopher Kennedy, 44, o Swydd Armagh, a Valentin Calota, 38, o Firmingham, eu canfod yn euog am eu rhan yn smyglo pobol.

Mae’r dyfarniadau hyn yn golygu bod wyth o bobol o Brydain wedi eu canfod yn euog am eu rhan yn y marwolaethau.

Mae’r erlynwyr yn ystyried cyhuddo tri pherson arall am eu rhan yn y dynladdiad.

Y ddedfryd fwyaf sy’n gallu cael ei rhoi am smyglo pobol yw 14 mlynedd yn y carchar, ond gall pobol sy’n cyflawni hunanladdiad gael eu carcharu am oes.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Daniel Stolen, o lu heddlu Essex, bod y criw yn “farus” ac yn “hunanfoddhaus”.

“Ni fyddai neb yn cludo anifeiliaid yn y ffordd yr oeddech chi’n hapus i gludo’r bobol hyn, gan roi nhw mewn perygl sylweddol,” meddai Daniel Stolen.

“Gweithredoedd afiach, anghyfreithlon, a pheryglus”

“Rhoddodd y 39 person bregus yma eu ffydd yn y rhwydwaith ddiegwyddor yma o smyglwyr er mwyn cael gwell bywyd,” meddai Kelly Matthews, o Wasanaeth Erlyn y Goron.

“Ni all dim byd ddod â’r bywydau hyn yn ôl na’r golled a gafodd ei hachosi gan weithredoedd afiach, anghyfreithlon, a pheryglus y diffynwyr.”

Clywodd yr Old Bailey bod y criw yn cynnig gwasanaeth penodol i ffoaduriaid o Fietnam, a oedd yn cael eu casglu o Wlad Belg a Ffrainc, gan godi tua £13,000 y pen i gludo ffoaduriaid i Brydain.

Roedd y rhwydwaith wedi bod yn weithredol ers o leiaf 18 mis, er eu bod wedi dod i sylw’r awdurdodau dro ar ôl tro.

Ni wnaeth y diffynwyr ymateb wrth glywed y dyfarniad, a bydd y dedfrydau yn cael eu gosod ddechrau Ionawr.