Ni fydd cofeb Syr Picton Thomas yng Nghaerfyrddin yn cael ei ddymchwel, ei symud, na’i hailenwi – ond bydd byrddau gwybodaeth sy’n adrodd ei stori’n llawn yn cael eu codi gerllaw.

Dyna benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr heddiw.

Daw hyn ar ôl iddynt glywed bod mwyafrif sylweddol o’r 2,500 o bobol a atebodd ymgynghoriad cyhoeddus o blaid cadw’r gofeb yn ei leoliad presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Cefin Campell, Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol gafodd y dasg o drefnu’r ymgynghoriad, fod yn rhaid gwneud mwy i addysgu pobol ac y bydd gosod byrddau gwybodaeth mewn llefydd amlwg ger y gofeb ac mewn mannau eraill yn gam tuag at gyflawni’r nod hwnnw.

Yn sgil protestiadau gwrth-hiliaeth diweddar, lansiwyd yr ymgynghoriad gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i’r obelisg dadleuol sy’n coffáu’r ffigwr dadleuol.

‘Dymchwel allan o’r cwestiwn’

“Byddai dileu neu ddymchwel heneb enfawr Picton wedi bod allan o’r cwestiwn – heb sôn am ddrud iawn,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny, sy’n cynrychioli De Tref Caerfyrddin ac sy’n hanesydd lleol.

“Mae dinistrio henebion at ddiben gwleidyddol neu grefyddol, yn sgubo hanes o dan y carped.

“Byddai ddim yn addas ei ailenwi neu ei ail-greu yn rhywun arall, waeth pa mor deilwng.”

“Roedd General Picton yn perthyn i gyfnod coloniaid Prydain, ac roedd cwest, caethwasiaeth a manteisio ar wledydd eraill yn elfennau canolog.

“Rhaid dweud y stori dywyll honno, a’i ran yn yr hanes.

“Ond roedd Picton hefyd yn ddyn dewr, fel y dangoswyd gan ei ymddygiad arwrol yn ystod awr ei farwolaeth yn Waterloo, brwydr a newidiodd gwrs hanes Ewrop.”

‘Cyfiawnhau ein penderfyniad’

Eglurodd y Cynghorydd Cefin Campbell, Cadeirydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol a gynhaliodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fod y ffaith bod bron i 2,500 o bobol wedi ymateb i’n holiadur yn “cyfiawnhau’r penderfyniad” i ofyn i bobol Sir Gaerfyrddin am eu barn.

“Mae ein canlyniad yn dangos yn glir bod mwyafrif o blaid cadw’r heneb, gan ei bod yn coffáu arwr rhyfel a syrthiodd yn y frwydr fawr yn erbyn Napoleon yn Waterloo,” meddai.

“Ond teimlai eraill fod coffáu perchennog caethweision a ganiataodd erchyllterau yn erbyn pobl dduon pan oedd yn Llywodraethwr Trinidad yn gwbl annerbyniol.

Addysgu

“O ystyried lefel y farn, a’r ffaith bod ymatebwyr ar ddwy ochr y ddadl yn teimlo y dylid gwneud mwy i addysgu pobl yn llawn am Syr Thomas Picton a ffigurau hanesyddol eraill, penderfynwyd yn unfrydol y dylid gosod byrddau gwybodaeth mewn man amlwg ger yr heneb.

“Credai’r Grŵp fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros sut y caiff ffigurau hanesyddol eu deall a’u cofio a sut y cyflwynir eu hanes, yn enwedig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae darparu byrddau gwybodaeth yn gam tuag at gyflawni’r nod hwn.”