Mae Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi dweud bod nifer o heriau yn wynebu’r heddlu wrth i gyfyngiadau llymach ddod i rym ledled Cymru, ac yn ne-ddwyrain Lloegr.

Wrth siarad ar Sky News heddiw (Rhagfyr 21), dywedodd John Apter na fydd mwy o heddlu ar y strydoedd gan nad oes rhagor o swyddogion i’w cael.

Gan fod llawn gymaint o bobol yn galw am gymorth yr heddlu am faterion sydd ddim yn ymwneud â Covid-19, mae’n rhaid i’r heddlu flaenoriaethu eu gwaith, yn ôl y Cadeirydd.

Pwysleisia John Apter, nad yw rheoli ciniawau Nadolig “yn flaenoriaeth” i’r heddlu.

“Mae’r heddlu yn bobol, hefyd”

Yr un yw’r sefyllfa yng Nghymru, ac mae ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Gogledd Cymru am atgoffa pobol fod “yr heddlu yn bobol, hefyd.”

Mae’r Ffederasiwn wedi cadarnhau na fydd heddlu ychwanegol ar strydoedd Cymru yn ystod yr ŵyl.

“Mae Covid wedi ymestyn plismona, a’r plismyn dewr hynny sy’n gweithio ar y rheng flaen, i’r eithaf,” meddai Mark Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Gogledd Cymru wrth golwg360.

“Gyda Chymru nawr yn wynebu cyfyngiadau llym, ni allwn anghofio bod hyn yn her sylweddol i blismona, ac mae’r her honno’n parhau.”

“Nid oes unrhyw blismyn ychwanegol. Dim ond y rhai sy’n gweithio’n eithriadol o galed, ac sy’n gweithio ar eu diwrnodau ffwrdd er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd.

“Mae’n rhaid i ni beidio byth ag anghofio bod yr heddlu yn bobol, hefyd. Dros yr ŵyl byddai’r heddlu yn hoffi dim byd mwy na gweld eu hanwyliaid, ond oherwydd y cyfyngiadau ac mewn ymdrech i gadw pawb yn saff, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud aberthau poenus.”

Wrth ddiolch i’r cyhoedd, dywedodd Mark Jones: “Hoffai Ffederasiwn yr Heddlu ddiolch i fwyafrif helaeth y cyhoedd sydd wedi cefnogi’r heddlu, gan gadw at y rheolau. Gofynnwn iddyn nhw ddyfalbarhau wrth i ni ddod at ein gilydd, yn anllythrennol, i ennill y frwydr hon.”

“Aros adre”

“Mae Ffederasiwn yr Heddlu yn erfyn ar y cyhoedd i gadw at reolau Llywodraeth Cymru. Mae hon yn adeg bwysig o’r flwyddyn i nifer o bobol ac mae gan yr heddlu, fel yr arfer, ddyletswydd i ymateb i nifer o alwadau gan y cyhoedd, yn ogystal ag ymdopi â’r pwysau ychwanegol sydd arnynt yn sgil y pandemig,” eglura Mark Bleasdale, Arweinydd Cymru ar Fwrdd Cenedlaethol Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.

“Bydd yr heddlu yn parhau i blismona pob agwedd ar ddeddfwriaeth [Llywodraeth Cymru], megis y rhannau sy’n ymwneud â theithio, ac yn gwneud hyn mewn ffordd addas gan ddilyn pedwar canllaw plismona – cysylltu ac ymwneud â’r cyhoedd, esbonio, annog, ac os oes rhaid, gorfodi.

Pwysleisia Mark Bleasdale mai “yn y pendraw, neges Llywodraeth Cymru yw i aros adre oni bai bod eich siwrne yn un angenrheidiol, ac anogwn bobol i gymryd sylw o’r canllawiau hyn.”

“Mae’n rhaid blaenoriaethu”

“Mae’r galw am wasanaeth yr heddlu ar gyfer materion sydd ddim yn ymwneud â Covid mor uchel ag erioed – rydym yn parhau i ateb galwadau 999, pethau fel lladradau, ymosodiadau, dwyn ceir. Rydym yn parhau i ymdopi â hynny. Mae’n rhaid blaenoriaethu. Fel gyda phopeth arall, mae’r heddlu yn gwneud fel y gwelant yn ddoeth,” meddai John Apter, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.

“Dydy cnocio ar ddrysau i weld a oes mwy nag wyth o bobol o amgylch y bwrdd bwyd ddim yn flaenoriaeth.

“Mae’r heddlu yn cael eu tynnu oddi wrth ddyletswyddau eraill er mwyn gwasanaethu dros gyfnod y Nadolig. Er, nid yw hyn yn newid y ffaith fod swyddogion yn cael trafferth ymdopi â’r cynnydd yn y galw a’r newidiadau yng nghyfyngiadau’r coronafeirws.”