Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn “bwrw ymlaen” gyda chynllun ad-drefnu ysgolion dadleuol ym Mhontypridd.

Ar ôl i’r Cyngor Sir apelio yn erbyn dyfarniad llys oedd yn rhwystro cau ysgolion ym Mhontypridd mae’r Llys Apêl bellach wedi dyfarnu o blaid y rhaglen.

Mae un o’r ysgolion cynradd a oedd dan fygythiad yn darparu addysg uniaith Gymraeg, Ysgol Pont Siôn Norton.

Fis Gorffennaf eleni llwyddodd ymgyrchwyr, grŵp Ein Plant yn Gyntaf, argyhoeddi’r barnwr bod y Cyngor wedi methu ag ystyried effaith y cam ar y Gymraeg.

Ond mewn gwrandawiad ddechrau Rhagfyr, daeth barnwyr i’r casgliad bod penderfyniadau gwreiddiol y cyngor sir, yn 2019, yn gyfreithlon.

‘Trawsnewid addysg yn ardal Pontypridd’

Dywedodd yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am faterion addysg, Joy Rosser bod y dyfarniad yn caniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â’r “cynllun uchelgeisiol i drawsnewid addysg yn ardal Pontypridd”.

“Canfu’r Llys Apêl fod y cyngor wedi rhoi ystyriaeth mewn perthynas â sicrhau bod digon o leoedd addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal i ateb y galw disgwyliedig, y bydd disgyblion presennol yn gallu parhau â’u haddysg trwy gyfrwng Cymraeg, ac y bydd yr ysgol gynradd Gymraeg newydd arfaethedig yn hygyrch.”

‘Siomedig’

Yn dilyn penderfyniad y llys apêl dywedodd grŵp Ein Plant yn Gyntaf mewn datganiad ei bod yn “siomedig”.

“Wrth symud ymlaen bydd Ein Plant yn Gyntaf yn gofyn i Lywodraeth Cymru wrthod y cynnig i gau’r Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Cardinal Newman o dan eu pwerau Adran 50.

“O ran addysg cyfrwng Cymraeg, byddwn yn parhau i ymgyrchu dros ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy’n hygyrch yn lleol yng nghymunedau Ynysybwl, Glyncoch, Coed y Cwm, Trallwn a Chilfynydd i atal y plant hyn rhag cael eu colli i’r Gymraeg.