Mae cyfraddau achosion Covid-19 yn parhau i godi ym mhob ardal yng Nghymru, bron, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae’r cynnydd mwyaf ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, a Blaenau Gwent.

Dim ond un ardal – Conwy – sydd wedi gweld gostyngiad.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 17 Rhagfyr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Maent yn dangos bod nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl ym Merthyr Tudful wedi codi’n sydyn o 926.6 i 1,299.6 – y gyfradd uchaf yng Nghymru – ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae’r gyfradd wedi cynyddu o 777.3 i 1,122.1.

Ym Mlaenau Gwent, mae’r gyfradd wedi codi o 698.5 i 1,006.3.

Gwelodd Conwy, yr un ardal sydd wedi cofnodi gostyngiad, ei chyfradd yn gostwng o 95.6 i 77.6.

Dechreuodd clo cenedlaethol arall yng Nghymru ar 20 Rhagfyr, gyda chynlluniau i lacio’r rheolau rhwng 23 a 27 Rhagfyr wedi’u dileu.

Dwy aelwyd fydd yn cael cyfarfod ar Ddydd Nadolig yn unig.

Y rhestr lawn

Dyma’r cyfraddau diweddaraf yn llawn.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Rhagfyr. Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Rhagfyr 18-21) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac mae’n tanlinellu gwir nifer yr achosion.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 17 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 17 Rhagfyr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 10 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 10 Rhagfyr.

Merthyr Tudful 1,299.6, (784), 926.6, (559)
Pen-y-bont ar Ogwr 1,122.1, (1,650), 777.3, (1,143)
Blaenau Gwent 1,006.3, (703), 698.5, (488)
Castell-nedd Port Talbot 964.3, (1,382), 802.4, (1,150)
Casnewydd 895.4, (1,385), 730.6, (1,130)
Caerffili 838.9, (1,519), 689.8, (1,249)
Rhondda Cynon Taf 829.4, (2,001), 676.9, (1,633)
Torfaen 804.6, (756), 588.5, (553)
Abertawe 747.0, (1,845), 716.6, (1,770)
Sir Gaerfyrddin 741.6, (1,400), 499.5, (943)
Caerdydd 677.6, (2,486), 529.3, (1,942)
Bro Morgannwg 610.8, (816), 376.5, (503)
Sir Fynwy 491.6, (465), 355.2, (336)
Wrecsam 454.6, (618), 266.3, (362)
Sir y Fflint 265.9, (415), 218.4, (341)
Sir Benfro 251.2, (316), 192.3, (242)
Ceredigion 246.2, (179), 187.1, (136)
Powys 224.3, (297), 153.3, (203)
Sir Ddinbych 145.3, (139), 135.8, (130)
Gwynedd 81.9, (102), 55.4, (69)
Conwy 77.6, (91), 95.6, (112)
Ynys Môn 47.1, (33), 37.1, (26)