Bydd Cymru’n wynebu Mecsico yn eu gêm gartref gyntaf yn 2021.

Caiff y gêm gyfeillgar ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am 8pm ddydd Sadwrn, 27 Mawrth.

Yn unol â chanllawiau cyfredol y Llywodraeth, mae’r gêm hon wedi’i threfnu i’w chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig.

Y gêm yn erbyn Mecsico fydd y 5ed tro i’r ddwy wlad wynebu ei gilydd, a’r tro cyntaf yng Nghymru.

Fe wynebodd y ddwy ochr ei gilydd ddiwethaf ym mis Mai 2018 yn Stadiwm Rose Bowl yn Pasadena, California – gêm ddi-sgôr fel rhan o baratoadau Mecsico ar gyfer Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd 2018.

Triple headers

Wrth i Gymru dychwelyd i’r maes yn y gwanwyn, bydd y pwyslais ar ymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd FIFA 2022.

Bydd y gêm yn erbyn Mecsico yn un o ddwy gêm ryngwladol ychwanegol – gyda gemau’n cael eu chwarae fesul tri – ‘triple headers‘ – ym mis Mawrth a mis Medi.

Bydd y gem gyfeillgar yn cael ei chwarae rhwng dwy gêm gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 – y gyntaf i ffwrdd i Wlad Belg, ddydd Mercher 24 Mawrth, cyn dychwelyd i chwarae’r Weriniaeth Tsiec gartref ddydd Mawrth 30 Mawrth.

Mewn datganiad dywedodd y Gymdeithas Bêl-droed:

“Gydag un llygad ar rowndiau terfynol EURO 2020, bydd y gêm hon yn rhan hanfodol o baratoadau’r tîm tua’r haf.”