Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi cyhoeddi bod Gavin Allen wedi camu o’r neilltu o’i rôl fel rheolwr y tîm cyntaf, a hynny ar unwaith.
Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Donald Kane:
“Derbyniodd bwrdd cyfarwyddwyr Tref Aberystwyth gynnig Gavin i gamu o’r neilltu y bore yma.
“Rydym yn gwerthfawrogi’n ddiffuant waith caled Gavin a’i ymrwymiad i’r tîm cyntaf fel rheolwr cynorthwyol ac yna fel rheolwr dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Sefyllfa hynod anodd”
“Hoffwn ychwanegu bod Gavin wedi wynebu sefyllfa hynod o anodd y tymor hwn. Effeithiodd pandemig COVID-19 yn ddifrifol ar baratoadau cyn y tymor, ac mae’r tymor wedi stopio ac ailddechrau sawl tro ers mis Medi,” meddai’r Cadeirydd.
“Oherwydd ad-drefnu gemau bu’n rhaid i’r Tîm Cyntaf chwarae’r tri uchaf bum gwaith mewn saith gêm, sydd hefyd wedi cael effaith ar ganlyniadau a hyder.
“Mae Gavin wedi delio â’r sefyllfa gydag urddas ac mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol falch o gadarnhau y bydd yn aros yn ei rôl fel Pennaeth Academi’r Clwb.”
Bydd y rheolwr cynorthwyol, Antonio Corbisiero, yn cymryd rheolaeth dros faterion y tîm cyntaf ar unwaith.