Wrth i gyfnod prysur y Nadolig agosáu, fe ddylai chwaraewyr Cymru gael digon o gyfleoedd i greu argraff gyda’u clybiau. Ond sut hwyl a gafodd pawb arni’r penwythnos hwn tybed?

Uwchgynghrair Lloegr

Roedd gan Neco Williams olygfa dda wrth i Lerpwl roi crasfa i Crystal Palace ddydd Sadwrn, yn eilydd heb ei ddefnyddio yn Selhurst Park.

Ar ôl dychwelyd i dîm Sheffield United a chreu argraff yn erbyn Man U ganol wythnos, fe ddechreuodd Ethan Ampadu yng nghanol cae eto wrth i’r Blades deithio i Brighton ddydd Sul. Gôl yr un a orffennodd hi, dim ond ail bwynt Sheffield United trwy’r tymor.

Dychwelodd Gareth Bale i fainc Tottenham ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Caerlŷr ddydd Sul ar ôl methu’r ddwy gêm ddiwethaf gyda salwch. Gyda’i dîm yn colli o gôl i ddim fe alwyd ar y Cymro ar hanner amser ond ni newidiodd hynny ffawd Spurs wrth i Gaerlŷr ychwanegu ail gôl i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol. Dechrau a gorffen ar y fainc a wnaeth Ben Davies a Joe Rodon i Tottenham, ac felly hefyd Danny Ward i’r gwrthwynebwyr.

Gwelwyd digwyddiad prin iawn yn Old Trafford ddydd Sul, Dan James yn dechrau gêm gynghrair i Man U! Talodd y penderfyniad ar ei ganfed i Ole Gunnar Solskjaer wrth i’r Cymro o Swydd Efrog sgorio yn y gêm fawr yn erbyn Leeds o bawb! Gôl fach daclus oedd hi hefyd, asgellwr Cymru’n curo’i ddyn ar ochr y cwrt cosbi cyn gorffen trwy goesau’r gôl-geidwad. Honno a oedd pumed gôl Man U mewn buddugoliaeth gyfforddus o chwe gôl i ddwy yn erbyn yr arch elyn.

Daniel James

Roedd gelyniaeth fawr arall yn cyfarfod yn yr Hawthorns nos Sul wrth i Aston Villa ymweld â West Brom. Ond parhau allan o garfan y Baggies y mae Hal Robson-Kanu ac eilydd a oedd Neil Taylor i Villa.

 *

Y Bencampwriaeth

Cododd Abertawe i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth gartref o ddwy gôl i ddim dros Barnsley ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Connor Roberts a Ben Cabango yn yr amddiffyn a gadwodd lechen lân a chyfrannodd Cabango yn y pen arall hefyd, yn creu’r gôl agoriadol i Jamal Lowe yn yr ail funud.

Nid oedd hi’n benwythnos cystal i Gaerdydd wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn y tîm ar y brig, Norwich. Roeddynt heb Kieffer Moore sydd allan am fis ar ôl anafu llinyn y gar yn erbyn Abertawe’r penwythnos diwethaf.

Doedd dim syndod gweld Harry Wilson yn dechrau eto yn erbyn Norwich ar ôl serennu yn erbyn Birmingham ganol wythnos. Creodd ddwy gôl a sgorio un yn y gêm honno ond ni chafodd yntau na gweddill ei dîm sniffiad yn erbyn y Caneris. Chwaraeodd Will Vaulks i’r Adar Gleision hefyd ac roedd chwarter awr oddi ar y fainc i Mark Harris.

Yn gwahanu Norwich ac Abertawe yn yr ail safle y mae Bournemouth yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Luton ddydd Sadwrn. Mae Chris Mepham yn parhau i fod wedi ei anafu ond chwaraeodd David Brooks i’r Cherries. Gall Tom Lockyer a Rhys Norrington-Davies fod yn falch o’u llechen lân i Luton ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Morrell unwaith eto, sydd yn dechrau mynd yn stori llawer rhy gyfarwydd ac yn rheswm i bryderu i gefnogwyr Cymru.

Mae Stoke yn agosáu at safleoedd y gemau ail gyfle ar ôl curo Blackburn o gôl i ddim. Dim ond dwy gôl y mae’r Potters wedi eu hildio yn eu saith gêm ddiwethaf, y ddwy yn erbyn Caerdydd. Mae hynny wedi cyd-fynd a dychweliad James Chester i’r tîm ac mae yntau a Morgan Fox wedi chwarae pob munud o’r saith gêm yn y rhediad arbennig. Roedd chwarter awr oddi ar y fainc i Sam Vokes yn erbyn Blackburn hefyd. Mae disgwyl i Joe Allen chwarae i dîm dan 23 Stoke ddydd Llun.

James Chester

Roedd hi’n wythnos dda iawn i Tom Bradshaw. Sgoriodd blaenwr Millwall wrth i’w dîm guro Bristol City ganol wythnos ac fe rwydodd y gŵr o Dywyn unwaith eto yng ngêm gyfartal y Llewod yn erbyn Nottingham Forest ar y penwythnos.

Yr unig Gymro arall i chwarae yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn oedd Joe Jacobson i Wycombe. Fe greodd y cefnwr gôl i Anis Mehmeti yn eu gêm yn erbyn QPR ond dim ond digon i achub pwynt a oedd hynny wrth iddynt aros ar waelod y tabl.

*

Cynghreiriau is

Daeth perfformiad y penwythnos yn yr Adran Gyntaf gan Brennan Johnson a Lincoln. Curodd yr Imps Northampton o bedair gôl i ddim i godi i’r ail safle yn y tabl.  Creodd Johnson y gyntaf i Anthony Scully yn yr ail funud cyn sgorio dwy ei hun i gwblhau’r grasfa yn y munudau olaf. Roedd llechen lân i Joe Walsh yng nghanol yr amddiffyn hefyd.

Ddau bwynt yn unig y tu ôl i Lincoln yn y pedwerydd safle y mae Doncaster yn dilyn buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn Burton. Mae Matthew Smith yn parhau i chwarae’n rheolaidd i Donny ac roedd yn ddylanwadol yng nghanol cae eto’r penwythnos hwn.

Yr unig Gymro buddugoliaethus arall yn yr ail Adran a oedd Luke Jephcott a oedd yn rhan o dîm Plymouth a drechodd MK Dons a Regan Poole o gôl i ddim. Mae’r blaenwr ifanc o Aberystwyth ar dân ar hyn o bryd a sgoriodd ei wythfed gôl mewn deg gêm yn erbyn Crewe ganol wythnos. Doedd dim gôl i’r Cymro ddydd Sadwrn ond mae’r tri phwynt yn codi ei dîm yn glir o safleoedd y gwymp.

Gemau cyfartal a oedd hanes pob Cymro arall yn y gynghrair ddydd Sadwrn. Cadwodd Chris Maxwell lechen lân yng ngêm ddi sgôr Blackpool yn Accrington ac fe chwaraeodd Wes Burns i Fleetwood mewn gêm gyfartal yn erbyn Tom James a Wigan yn Stadiwm DW.

Dechreuodd Chris Gunter i Charlton yn Swindon a daeth Adam Mathews oddi ar y fainc wrth iddi orffen yn ddwy gôl yr un. Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Dylan Levitt a Jonny Williams.

Mae Casnwydd yn parhau ar frig yr Ail Adran er gwaethaf canlyniad siomedig yn erbyn Oldham ddydd Sadwrn. Dechreuodd pethau’n dda i’r tîm cartref ar Rodney Parade wrth i Josh Sheehan greu’r gôl agoriadol i Scott Twine wedi dim ond wyth munud.

Colli o bedair i ddwy a fu hanes yr Alltudion yn y diwedd serch hynny ac nid oedd y rheolwr, Mike Flynn, yn ddyn hapus ar ôl y gêm. Nid oedd yn fodlon â’i amddiffyn a oedd yn cynnwys Brandon Cooper a Liam Sheppard ac roedd yn gandryll gyda Sheehan am adael i Padraig Amond gymryd (a methu) cic o’r smotyn yn ei le pan yr oedd y sgôr yn gyfartal, dwy gôl yr un.

 *

Yr Alban a thu hwnt

Sgoriodd Christian Doidge ym muddugoliaeth Hibs yn erbyn Alloa yn rownd wyth olaf Cwpan Cynghrair yr Alban ganol wythnos. Roedd yn y tîm eto yn y gynghrair ddydd Sadwrn ond gêm gyfartal siomedig a gafodd y Bresych yn erbyn Dundee Utd.

Roedd Ash Taylor a Ryan Hedges yn nhîm Aberdeen ddydd Sul wrth iddynt guro Kilmarnock. Hedges a sgoriodd y gyntaf o goliau ei dîm yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim ac maent yn codi dros Hibs i’r trydydd safle yn y tabl.

Chwaraeodd Owain Fôn Williams yn rownd go-gynderfynol Cwpan y Gynghrair yng nghanol wythnos hefyd ond colli ar giciau o’r smotyn fu hanes ei dîm ef, Dunfermline, yn erbyn St. Johnstone. Roedd y gôl-geidwad o Ddyffryn Nantlle yn ôl rhwng y pyst ar gyfer gêm gyffrous ym Mhencampwriaeth yr Alban ddydd Sadwrn. Aeth ei dîm dair gôl i ddim ar ei hôl hi yn erbyn Dundee cyn sgorio deirgwaith yn y deuddeg munud olaf i achub pwynt.

Dechreuodd Aaron Ramsey i Juventus yn eu gêm Serie A yn Parma ddydd Sadwrn gan greu trydedd gôl ei dîm i Christiano Ronaldo yn y fuddugoliaeth o bedair gôl i ddim.

Ar draws Môr yr Adriatig yng Nghroatia, ar y fainc yr oedd Robbie Burton i Dinamo Zagreb ar gyfer eu gêm gynghrair hwy yn erbyn Varazdin ddydd Sadwrn er iddo chwarae mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Rudes yn y Cwpan ganol wythnos.

Roedd hi’n wythnos gythryblus arall yn Gelsenkirchen wrth i Schalke ddiswyddo eu rheolwr, Manuel Baum, wedi dim ond 79 diwrnod yn y swydd. Daeth hynny yn dilyn colled ganol wythnos yn erbyn Freiburg, gêm y chwaraeodd Rabbi Matondo ynddi yn dilyn cyfnod hir allan o’r tîm.

Huub Stevens a oedd y rheolwr dros dro ar gyfer y gêm fawr ar waelod y Bundesliga yn erbyn Arminia ddydd Sadwrn ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Matondo wrth i’w dîm golli ac aros ar waelod y tabl.

Nid oedd James Lawrence yn nhîm St Pauli ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Fortuna Dusseldorf yn y 2. Bundesliga ddydd Sul oherwydd anaf i’w goes.

Yn Ffrainc, mae rhediad gwych diweddar Rhys Healey yn parhau. Mae’r blaenwr bellach wedi sgorio chwe gôl ym mhum gêm ddiwethaf Toulouse ar ôl sgorio dwy yn eu buddugoliaeth ddiweddaraf yn Ligue 2 yn erbyn La Harve. Os fydd y rhediad yn parhau rhwng nawr a mis Mawrth tybed a fyddai’n syniad i rhywun yn y Gymdeithas gael gair?