Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 19 Rhagfyr yn rhoi Cymru yng nghyfyngiadau Lefel 4, mae statws ‘elit’ y cynghreiriau canlynol wedi’i atal am y tro:

Uwchgynghrair JD Cymru Premier
Uwchgynghrair Menywod Cymru
Cynghrair JD Cymru’r Gogledd
Cynghrair JD Cymru’r De

Canlyniad hyn yw y bydd yr holl gemau sy’n cynnwys clybiau nad ydynt yn gwbl broffesiynol yn cael eu gohirio am y tro.

Bydd Cynghreiriau JD Cymru yn gwneud cyhoeddiad ar wahân ynghylch a ellir cynnal unrhyw gemau sy’n cynnwys clybiau cwbl broffesiynol yn ystod y cyfnod hwn.

Y Grwp Chwaraeon Cenedlaethol (yr NSG) sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn – mae’r NSG yn cynnwys cynrychiolaeth o Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Mae’r NSG wedi cadarnhau y bydd y dynodiad statws elitaidd yn cael ei adfer yn awtomatig o pan fydd Cymru’n symud i lefel rybudd is.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi’n flaenorol, ar 19 Rhagfyr, y byddai pêl-droed islaw’r cynghreiriau hyn yn cael ei atal yn ystod cyfyngiadau Lefel 4.