Bydd Cymru, Lloegr a’r Alban yn uno i gael tîm saith bob ochr Prydain Fawr ar gyfer tymor 2021 cyn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Mae’r Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi Lloegr ac Undeb Rygbi’r Alban wedi sicrhau cyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Disgwylir i dîm saith bob ochr dynion a merched Prydain Fawr gystadlu yng Nghyfres saith bob ochr y Byd HSBC cyn ac ar ôl Gemau Olympaidd yr haf yn Japan.

Daw hyn wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi fis Awst byddai tîm saith bob ochr Cymru yn dod i ben am gyfnod amhenodol oherwydd Covid-19.

Eglurodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Undeb Rygbi Cymru a Chyfarwyddwr Bwrdd Tîm Prydain Fawr, Julie Paterson, fod hyn gyfle da i gydweithio.

“Mae hon yn enghraifft wych o’r Undebau Cartref yn dod at ei gilydd er mwyn gwella’r gêm.

“Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i wneud hyn yn bosibl, ac mae lefel y cydweithio gan y tair undeb a’n partneriaid masnachol wedi bod yn rhagorol. Mae’n siŵr y bydd y fenter yn rhoi’r cyfle gorau i dîm Prydain Fawr lwyddo yn Tokyo ac yng Nghyfres y Byd.”

Er fod yr Alban yn  bwriadu parhau â’u tîm saith bob ochr eu hunain ar ôl 2021 nid yw’n glir eto a fydd Cymru a Lloegr yn dychwelyd i’r hen drefn.

Tîm saith bob ochr Cymru

Enillodd tîm saith bob ochr Cymru Gwpan Rygbi’r Byd saith bob ochr yn 2009.

Yn fwy diweddar, mae nifer o’i chwaraewyr wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i rygbi rhanbarthol, tra bo’r tîm hefyd wedi bod o fudd wrth ddatblygu nifer o hyfforddwyr Cymreig.

Ond yn dilyn dechrau anodd i’w hymgyrch Cyfres Saith Bob Ochr Rygbi’r Byd 2019/20, roedd dynion Cymru yn y safle olaf pan ddaeth y tymor i ben yn gynnar oherwydd y coronaferiws fis Mawrth.

Eglurodd cyn-cyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Ryan Jones, fis Awst fod “realiti’r sefyllfa ariannol bresennol yn ei gwneud hi’n amhosibl cynnal y tîm saith bob ochr.”