Mae chwaraewyr rygbi’r gynghrair sydd ag arwyddion cynnar o ddementia wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau’r gêm.

Daw hyn wedi i chwaraewyr rygbi’r Undeb, gan gynnwys cyn-wythwr Cymru Alix Popham, ddweud bod rygbi’r undeb wedi eu gadael gyda niwed parhaol.

Cafodd llythyr gan gwmni cyfreithiol Rylands – sydd wedi siarad gan dros 130 o chwaraewyr sydd wedi ymddeol – ei yrru i Rygbi’r Byd, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr wythnos diwethaf.

Er nad oes llinell amser wedi’i rhoi ar gyfer lansio’n camau yn erbyn rygbi’r gynghrair yn ffurfiol mae’n debyg mae’r un cwmni cyfreithiol sydd yn cynrychioli’r chwaraewyr.

‘Angen gwneud mwy o ymchwil’

Eglurodd cyfarwyddwr Rygbi’r Gynghrair Leeds, Kevin Sinfield, fod hi’n bwysig nad yw’r rhai sy’n rhedeg y gamp yn gwneud rhagdybiaethau.

“Mae angen i ni wneud llawer mwy o ymchwil,” meddai.

“Fel clwb rydym wedi buddsoddi mewn technoleg sy’n defnyddio amddiffynnydd ceg i helpu gyda cyfergydau.

“Rwy’n credu bod hi’n bwysig iawn ei fod yn cael ei ymchwilio’n iawn a’n bod yn cael atebion yn hytrach na dyfalu a cheisio gwneud rhagdybiaethau.

“Mae’n drist iawn gweld Steve Thompson ac Alix Popham, chwaraeodd y ddau ohonynt i Leeds Tykes felly rwyf wedi treulio peth amser gyda’r ddau ohonynt yn y gorffennol, ac mae’r stori a’r daith mae’r ddau chwaraewr wedi bod ar yn drasig iawn.”

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan yr Undeb Rygbi wythnos yma yn dangos difrifoldeb cyfergydau o fewn y gamp.

Mae data o dymor 2018-19 yn dangos bod chwaraewyr ar gyfartaledd wedi’u cadw oddi ar y cae  am 22 diwrnod ar ôl dioddef cyfergyd yn ystod gêm.

Mae hynny’n uwch nag ar unrhyw adeg ers i ystadegau gael eu cofnodi gyntaf yn 2002.

Treialon yng nghynghreiriau pêl-droed

Disgwylir i gystadlaethau pêl-droed, gan gynnwys Uwchgynghrair Lloegr, dreialu’r defnydd o eilyddion cyfergyd ychwanegol.

Ond nid oes estyniad i’r cyfnod ar gyfer asesu chwaraewyr am gyfergyd, rhywbeth mae arbenigwyr ac undebau chwaraewyr wedi galw amdano.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod pum aelod o dîm pêl-droed Lloegr a enillodd Gwpan y Byd 1966 naill ai wedi marw gyda dementia, neu’n byw gydag ef.

Roedd Nobby Stiles, a fu farw ym mis Hydref, yn un o’r chwaraewyr hynny.

Cyfrannodd ei deulu ei ymennydd i ymchwil yn ymwneud a chyfergydau gan Brifysgol Glasgow.

Cafodd y teulu wybod fod penio’r bel wedi achosi niwed difrifol i’w ymennydd.

Darllen mwy: