Mae cyn-asgellwr Cymru Aled Brew wedi ymddeol o’r byd rygbi.

Mae Brew, sydd yn 34 oed, yn camu i ffwrdd o’r gamp ar ôl i’w gytundeb tymor byr gyda’r Scarlets ddod i ben.

Enillodd e naw cap dros Gymru rhwng 2007 a 2012, ac roedd e hefyd yn rhan o garfan Warren Gatland yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2011.

‘Hanner fy mywyd yn chwarae’r gêm’

“Ar ôl 17 mlynedd o chwarae’r gêm, dw i o’r diwedd wedi gwneud y penderfyniad i roi fy esgidiau i gadw,” meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Dw i wedi bod yn lwcus iawn i dreulio hanner fy mywyd yn chwarae’r gêm, a fyswn i ddim yn newid hynny o gwbl, mae wedi rhoi cyfleoedd, atgofion a chyfeillgarwch fydd yn aros gyda fi am byth.

“Dw i wedi cael y fraint o chwarae i amryw o glybiau anhygoel sydd â’r cefnogwyr gorau.”

Mae’n un o ddim ond pedwar chwaraewr sydd wedi chwarae i bob un o ranbarthau Cymru – y Gweilch, y Gleision, y Dreigiau â’r Scarlets.

Treuliodd e gyfnod hefyd yn chwarae i Biarritz a Chaerfaddon.

“Er nad yw fy mhennod nesaf yn glir eto, mae un peth yn dal yn sicr, byddaf yn wynebu’r bennod nesaf gyda’r un angerdd, ymrwymiad a gonestrwydd a dw i wedi gwneud drwy gydol fy ngyrfa rygbi,” meddai.