Bydd y Gweilch yn wynebu’r Scarlets ym Mharc y Scarlets ac nid yn Stadiwm Liberty ar ddydd San Steffan.

Roedd y gêm ddarbi i fod i gael ei chynnal yn Abertawe, ond bu’n rhaid newid y lleoliad gan fod perchnogion y stadiwm, Clwb pêl-droed Abertawe, wedi penderfynu ailosod y cae o ganlyniad i’w gyflwr yn ddiweddar.

Oherwydd problemau gyda’u cae presennol, bydd Abertawe’n gosod cae hybrid ar gyfer gweddill y tymor.

Bydd y cae newydd yn barod i’w ddefnyddio ar Ragfyr 30 pan fydd yr Elyrch yn croesawu Reading yn y Bencampwriaeth.

Siom prif hyfforddwr y Gweilch

“Mae’n siomedig – Stadiwm Liberty yw ein cartref a lle rydyn ni’n chwarae,” meddai Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch.

“Mae ansawdd y cae rydyn ni’n chwarae arno yn bwysig i ni ac yn rhywbeth rydyn ni’n ceisio’i ddatrys.

“Mae’n anghenrheidiol ac mae pawb yn deall hynny.

“Nid yw’n effeithio ar ein paratoadau ac mae’n debyg ei fod yn golygu bod angen i ni fod hyd yn oed yn well.

“Bydd y penderfyniad yn rhoi mwy o bwysau arnom drwy chwarae oddi cartref.

“Mae hynny’n brawf da i ni ac mae’n debyg mai’r Scarlets fu’r tîm mwyaf cyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n gyfle i weld pa mor bell ydyn ni wedi dod.”

Y Gweilch oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn gêm gyfeillgar fis Medi.