Mae Ben Cabango, y Cymro Cymraeg sy’n chwarae fel amddiffynnwr canol i Glwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e eisiau parhau i wella fel chwaraewr.
Fe ddaeth yn aelod cyson o garfan yr Elyrch dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn ei gêm gyntaf i’r clwb fis Hydref y llynedd.
Mae e wedi chwarae mewn 35 o gemau cynghrair ers hynny, gan ddechrau 33 o weithiau, wrth i’r Elyrch gyrraedd y gemau ail gyfle ddiwedd y tymor diwethaf.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn y Ffindir fis Medi eleni.
Mae gan yr Elyrch y record amddiffynnol orau yn y Gynghrair Bêl-droed eleni, ar ôl ildio dim ond 12 o goliau – dim ond Manchester City sydd wedi rhagori ar y record.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r Elyrch wedi cadw 20 llechen lân, ac maen nhw’n drydydd yn y tabl ar hyn o bryd.
‘Mae llawer wedi newid’
“Mae llawer wedi newid mewn ychydig dros flwyddyn, a dw i’n teimlo fel chwaraewr gwahanol,” meddai.
“Dw i’n teimlo’n wahanol iawn ar y cae oherwydd dw i’n gwybod fy rôl yn iawn nawr.
“Dw i’n fwy llafar, yn fwy hyderus yn gwneud beth dw i’n ei wneud, ond dw i’n credu bod rhaid i fi wella fy nghyfathrebu os ydw i eisiau dod yn fwy o arweinydd.
“Dw i’n gwybod beth yw fy nghyfrifoldebau, dw i’n deall beth sydd ei angen.
“Ond gadewch i ni fod yn onest, mae gyda fi ffordd bell i fynd eto.
“Dw i’n gwybod fod llawer iawn mwy gyda fi i’w wneud.
“Dw i’n dal i weithio’n galed a dw i eisiau gwella bob gêm, a dim ond trwy wneud y pethau hyn fydda i’r chwaraewr dw i eisiau bod i Abertawe ac i fi fy hun.
“Dw i’n bell o fod yno eto, ond dw i’n teimlo fy mod i’n gwella hyd yn oes os yw’r broses ymhell o fod lle dw i eisiau iddi orffen.”