Bydd pedwar tîm Super Rugby o Dde Affrica yn ymuno â thimau’r PRO14 mewn cystadleuaeth newydd o’r enw Cwpan yr Enfys fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd timau’r Bulls, Stormers, Sharks a’r Lions o Dde Affrica yn ymuno â thimau o Gymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal.

Golyga hyn bydd tymor y PRO14 yn dod i ben yn gynnar, gyda’r rownd derfynol wedi’i threfnu ddiwedd mis Mawrth.

Dechreuodd y trafodaethau i gynnwys pedwar tîm o Dde Affrica fis Medi ar ôl i Rygbi De Affrica bleidleisio o blaid y newid. 

Mae’r Southern Kings a’r Cheetahs, dau dîm arall o Dde, Affrica wedi bod yn chware yn y gystadleuaeth ers 2017.

Er hyn yn sgil y Coronafeirws mae’r ddau dîm wedi tynnu nôl o’r gystadleuaeth eleni.

Paratoi at daith y Llewod

Mae’r penderfyniad i ddod a’r PRO14 i ben yn gynnar wedi’i wneud er mwyn gefnogi rygbi De Affrica cyn taith y Llewod y flwyddyn nesaf.

“Ar adeg lle mae ein camp wedi wynebu ei her fwyaf erioed, mae gennym newyddion addawol am ateb arloesol i gydweithio gyda rygbi De Affrica cyn taith y Llewod,” meddai Martin Anayi, Prif Swyddog Gweithredol y PRO14.

Yn sgil y pandemig dydy tîm rygbi De Affrica heb chwarae’r un gêm ers ennill Cwpan Rygbi’r Byd yn 2019.

“Gyda thaith y Llewod yn Ne Affrica i ddod mae’n anodd meddwl am unrhyw beth gwell i baratoi’r chwaraewyr gorau o’r rhanbarthau Celtaidd na chystadlu yn erbyn Springboks a enillodd Gwpan y Byd.”

Cadarnhawyd fis Gorffennaf y bydd y Llewod, dan arweinyddiaeth Warren Gatland, yn teithio i Dde Affrica haf nesaf.

Trefn y gystadleuaeth newydd

Bydd Cwpan yr Enfys yn dechrau ar Ebrill 17.

Mae’r gystadleuaeth wedi’i rhannu’n ddau grŵp o wyth tîm ac mae 57 o gemau wedi’u trefnu.

Bydd saith rownd cyn i enillwyr y grwpiau wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol ar Fehefin 19.

Bydd pob grŵp yn cynnwys dwy ochr o Gymru, Iwerddon a De Affrica ac un o’r Alban a’r Eidal.

Bydd gemau yn cael eu chware yn Ewrop a De Affrica.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, bydd yn ofynnol i bob tîm o Dde Affrica chwarae tair gêm i ffwrdd o gartref yn Ewrop a bydd y gemau hyn yn digwydd mewn blociau, sy’n golygu un daith o bythefnos a hanner.

Bydd timau Ewropeaidd i gyd yn chwarae un gêm i ffwrdd yn Ne Affrica.

Ond mai pryder y gall cyfyngiadau teithio Covid-19 amharu ar y gystadleuaeth.

Nid oes unrhyw fanylion wedi’u darparu eto am dymor 2021-22 gyda thrafodaethau’n parhau ond y gred yw bod y gystadleuaeth newydd yn gam tuag at bencampwriaeth cynghrair sy’n cynnwys pedair ochr De Affrica.