Fe fydd taith tîm rygbi’r Llewod i Dde Affrica’n mynd yn ei blaen haf nesaf.

Byddan nhw’n herio’r Stormers yn y gêm gyntaf ar Orffennaf 3, gyda’r prawf cyntaf yn erbyn pencampwyr y byd yn Johannesburg dair wythnos yn ddiweddarach.

Bydd yr ail brawf yn Cape Town ar Orffennaf 31 a’r trydydd yn Johannesburg ar Awst 7.

Dywed y Llewod fod “cryn dipyn o gynlluniau” ynghlwm wrth deithiau’r Llewod a’i bod yn “hollbwysig” fod y penderfyniad wedi cael ei wneud mewn da bryd.

‘Arbennig’

“Mae teithiau’r Llewod bob amser yn unigryw, ond bydd cael herio pencampwyr y byd ar eu tomen eu hunain yn beth arbennig iawn,” meddai Warren Gatland.

“Ar ôl teithio yno yn 2009, dw i’n gwybod maint y dasg o’n blaenau ni – mae chwarae yn Ne Affrica yn cynnig sawl her megis chwarae ar gryn uchder, tra bydd y Boks bob amser yn gorfforol, yn ymosodol ac wedi’u hysgogi’n fawr.

“Mae hanes yn dweud wrthoch chi ei fod e’n lle anodd i deithio, ond dw i’n hyderus y gallwn ni fynd yno ac ennill.”

Dywed Undeb Rygbi De Affrica eu bod nhw’n “edrych ymlaen at groesawu’r Llewod”.