Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod “y darlun newid o hyd” yn y Bencampwriaeth wrth i’w dîm deithio i Nottingham Forest heno (nos Fercher, Gorffennaf 15).
Mae’r Elyrch yn yr wythfed safle, bedwar pwynt islaw’r chweched safle hollbwysig, gyda thair gêm yn weddill, ac mae ganddyn nhw un gêm mewn llaw dros Gaerdydd yn y chweched safle.
Byddan nhw’n awyddus i sicrhau buddugoliaeth ar ôl colled siomedig o 1-0 yn erbyn Leeds dros y penwythnos, ar drothwy cyfnod o dair gêm mewn wyth diwrnod.
“Mae’r darlun yn newid gyda phob gêm, rhaid i ni geisio ennill gweddill ein gemau,” meddai’r rheolwr.
“Roedd siom yn yr ystafell newid ar ôl y gêm yn erbyn Leeds, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, ond gallwn i synhwyro fod yna dân yn eu boliau o hyd.
“Maen nhw’n gwybod ein bod ni’n haeddu mwy, ac rydyn ni am barhau i berfformio a mynd â hynny i mewn i’r gêm nos Fercher.
“Allwn ni ddim newid yr hyn sydd wedi digwydd, dim ots pa mor boenus oedd e.
“Ond mae gyda chi ddewis, naill ai i orwedd a chrïo neu magu’r agwedd eich bod chi’n manteisio ar hynny i’n gwneud ni’n gryfach.
“Dyna fyddwn ni’n ei wneud, a byddwn ni’n dal ati hyd y diwedd, peidiwch â phoeni am hynny.”