Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau wedi cyhoeddi iddyn nhw arwyddo’r brodyr Ben a Harry Fry.

Mae Ben, chwaraewr rheng ôl 21 oed, yn symud i fyny o’r Academi, tra bod ei frawd iau, y prop 19 oed Harry, yn symud o Academi Gaerloyw.

Mae’r ddau yn dod o Gaerdydd.

Mae Ben eisioes wedi chwarae pedair gwaith i’r Dreigiau, gyda’i gêm gyntaf yn dod yn erbyn Timisoara Saracens yng Nghwpan Her Ewrop yn 2018, pan sgoriodd e gais yn yr ail hanner.

Roedd Harry yn aelod o garfan Caerloyw yng Nghwpan Pencampwyr Heineken y tymor diwethaf, gan chwarae hefyd i Hartpury ym Mhencampwriaeth Lloegr, ac mae e hefyd wedi cynrychioli tîm dan 18 oed Lloegr.

Croesawu’r brodyr

Mae Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, wedi croesawu’r newyddion am y ddau frawd.

“Mae agwedd Ben wedi creu argraff arna i ac mae ganddo fe sglein ar ei gêm,” meddai.

“Yn y Dreigiau, mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw a datblygu ein doniau ifanc gorau ac mae Ben yn rhan o’r broses honno.

“Mae Harry yn brop pen rhydd ifanc rydyn ni’n edrych ymlaen at ei ddenu’n ôl i Gymru ac i mewn i’n hamgylchfyd ni, lle bydd e’n dysgu gan y chwaraewyr proffesiynol mwyaf profiadol o’i gwmpas e.”