Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi cryfhau eu gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, ar ôl curo Derby o 2-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 14).

Ond mae’n ergyd i Abertawe, sydd hefyd yn y ras, wrth iddyn nhw deithio i Nottingham Forest heno (nos Fercher, Gorffennaf 15).

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ôl 16 munud drwy Junior Hoilett, cyn i Jason Knight unioni’r sgôr ar ôl hanner awr.

Ond fe arweiniodd camgymeriad Wayne Rooney at gôl dyngedfennol Lee Tomlin sy’n cadw Caerdydd yn y chweched safle, bedwar pwynt ar y blaen i’r Elyrch, sy’n wythfed, a dau bwynt ar y blaen i Millwall yn y seithfed safle.

Gall Abertawe fynd o fewn pwynt i’r Adar Gleision pe baen nhw’n cipio’r triphwynt heno.

Atal Wayne Rooney

Yn ôl Neil Harris, rheolwr Caerdydd, roedd atal Wayne Rooney, sydd wedi ennill 120 o gapiau dros Loegr, yn hanfodol i’w gobeithion o ennill y gêm.

“Roedden ni’n gwybod fod rhaid i ni atal Wayne Rooney rhag cael amser a lle ar y bêl,” meddai.

“Fe wnaethon ni hynny ac roedd rhaid i Lee [Tomlin] ddarparu’r diweddglo, ac fe wnaeth e hynny’n eithriadol o dda.”

Dyma’r tro cyntaf i Lee Tomlin ddechrau gêm i’r Adar Gleision ers mis Chwefror, a hynny yn dilyn cyfres o anafiadau.

“Mae’n her i’w gael e ar y cae ymarfer rai diwrnodau, dim ots am fynd ar y cae ar gyfer gemau,” meddai’r rheolwr wedyn.”