Mae prif sylwebydd pêl-droed ITV yn dweud iddo golli ei swydd, ond nad yw’n gwybod pam.

Fe fu Clive Tyldesley yn brif lais pêl-droed y sianel ers 22 o flynyddoedd, ond fe fydd Sam Matterface yn cymryd ei le.

Mae’n dweud ei fod e “wedi ypsetio, yn grac, ac wedi drysu” yn sgil y penderfyniad, sy’n dod bythefnos yn unig ar ôl iddo alw am fwy o hyfforddiant i sylwebyddion ar sylwebu ar chwaraewyr croenddu, a hynny yn sgil ymchwil sy’n dangos anffafriaeth tuag at chwaraewyr o liw yn ystod sylwebaethau.

Daeth cadarnhad gan ITV o’r penderfyniad fore heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 14), ac fe fydd yn dod i rym y tymor nesaf.

Mae Clive Tyldesley wedi mynegi ei deimladau mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Er mwyn bod yn glir, penderfyniad ITV yw hwn, nid fy un i, a dw i wedi ypsetio, yn grac ac wedi drysu,” meddai.

“Dw i’n parchu’n llwyr hawl ITV i newid eu barn amdanaf fi, mae ITV wedi bod yn dda iawn i fi a gwnaf, fe wna i barhau fel eu hail sylwebydd.

“Ond gadewch i fi fod yn eithaf clir – dw i ddim wedi camu o’r neilltu, dw i wedi cael fy symud i’r naill ochr.”

Mae’n dweud wedyn na fydd e’n sylwebu ar gemau Lloegr na Chynghrair y Pencampwyr bellach.

Gyrfa

Ymunodd e ag ITV o’r BBC yn 1996, a dod yn brif lais pêl-droed y sianel ar ôl Cwpan y Byd 1998.

Fe oedd y llais oedd yn cyd-fynd â rhai o ddigwyddiadau mwya’r degawdau diwethaf, gan gynnwys buddugoliaeth Manchester United wrth gipio tlws Cynghrair y Pencampwyr yn 1999.

Mewn datganiad, mae ITV wedi diolch iddo am ei wasanaeth, gan ddweud eu bod nhw’n “falch iawn” y bydd yn parhau i sylwebu ar gemau iddyn nhw.

Fe fydd Sam Matterface, sydd eisoes yn sylwebu ar gemau i ITV ochr yn ochr â’i waith i talkSPORT, yn camu i’r bwlch.

Dywed Clive Tyldesley iddo gael gwybod am y penderfyniad dair wythnos yn ôl, ond ei fod e’n cael trafferth ei ddeall o hyd.

Dywed y byddai wedi cytuno i sylwebu ar rownd derfynol yr Ewros iddyn nhw “lai na 48 awr yn ôl” ond na fydd e bellach yn sylwebu ar yr un o gemau Lloegr yn ystod y flwyddyn i ddod.