Mae’n rhaid i dîm pêl-droed Abertawe ddal i gredu bod ganddyn nhw obaith o gael lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.
Fe fu’n siarad ar drothwy gêm fawr arall i’w dîm yn erbyn Nottingham Forest nos yfory (nos Fercher, Gorffennaf 15).
Maen nhw’n seithfed yn y tabl gyda thair gêm yn weddill, un pwynt yn unig islaw Caerdydd, ond fe gawson nhw siom dros y penwythnos o golli o 1-0 gartref yn erbyn Leeds, sydd ar y brig.
Mae ganddyn nhw gêm anodd unwaith eto yn Nottingham, yn erbyn un arall o’r timau sy’n brwydro am le yn y gemau ail gyfle, a byddan nhw wedyn yn herio Bristol City a Reading o fewn cyfnod byr ar ddiwedd y tymor estynedig.
“Roedd y golled [yn erbyn Leeds] wedi brifo oherwydd roedden ni’n haeddu mwy, ond all hynny ddim amharu ar ein paratoadau ar gyfer Nottingham Forest.
“Does dim diben teimlo’n flin drosom ni’n hunain, rhaid i ni baratoi.
“Rhaid i ni guro’r timau sydd o’n cwmpas ni, ac mae Forest oddi cartref mor anodd ag y gall fod, bron iawn.
“Ond os ydyn ni am gyflawni rhywbeth, rhaid bod yn llwyddiannus ac ennill gemau fel hon.
“Mae’n gyfnod mor bwysig ond ar ddiwedd y dydd, rhaid i ni ofalu amdanom ni’n hunain a pheidio ag aros i eraill roi cyfle i ni.”