Mae’r Seintiau Newydd yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys i gadarnhau Cei Connah fel pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd y Seintiau Newydd wedi dwyn achos yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sgil cwtogi tymor 2019/20 o gynghrair Cymru Premier oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y gynghrair 13 o weithiau yn ei hanes, gan gynnwys wyth tymor yn olynol rhwng 2011-12 a 2018-19.
Beth oedd gan y clybiau i’w ddweud?
“Mae Clwb Pêl-droed y Seintiau newydd yn hynod siomedig gyda’r canlyniad ac yn ystyried apêl, wedi i’r barnwr wrthod ein hawliadau fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dod â’r tymor i ben yn rhy gynnar, gan ddefnyddio system bwyntiau fesul gêm sydd ddim yn dal dŵr yn hytrach na datrysiad mwy traddodiadol,” meddai datganiad gan Y Seintiau Newydd.
Mae datganiad Cei Connah yn dweud y “gallwn edrych ymlaen at ddychwelyd i hyfforddi a chynllunio at gyfnod cyffrous yn hanes y clwb”.
“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas am eu proffesiynoldeb drwy gydol yr achos,” meddai wedyn.
Ac mae rheolwr Cei Connah, Andy Morrison yn edrych ymlaen at gystadlu yn Ewrop.
“Efo lwc gallwn ni, fel Y Bala a’r Barri fwrw ymlaen gyda’n paratoadau Ewropeaidd – rydym wedi ymfalchïo yn ein perfformiadau yn Ewrop ac mae ein paratoadau wastad wedi bod yn fanwl dros ben,” meddai.