Mae’r sylwebydd pêl-droed Clive Tyldesley yn galw am hyfforddiant i gyd-sylwebwyr a phynditiaid ar ôl i astudiaeth ddangos bod yna ragfarn yn y ffordd mae chwaraewyr croenddu’n cael sylw yn ystod sylwebaethau.
Yn ôl ymchwil gan RunRepeat o Ddenmarc, ar y cyd â Chymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA), aeth 62.6% o’r holl ganmoliaeth yn ystod sylwebaethau i chwaraewyr â chroen golau, tra bod 63.33% o’r feirniadaeth wedi’i neilltuo ar gyfer chwaraewyr â chroen tywyll.
Cafodd 60.4% o’r ganmoliaeth ar gyfer ymdrech chwaraewyr ei neilltuo ar gyfer chwaraewyr â chroen golau.
Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar 80 o gemau yn Uwch Gynghrair Lloegr, Serie A yn yr Eidal, LaLiga yn Sbaen a Ligue 1 yn Ffrainc y tymor hwn.
Cafodd 2,073 o ddatganiadau sylwebwyr yn Saesneg eu hasesu yng ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau a Chanada.
‘Mwy o ymwybyddiaeth’
Dywed Clive Tyldesley fod angen mwy o hyfforddiant ar sylwebwyr fel eu bod nhw’n dod yn fwy ymwybodol o’r hyn maen nhw’n ei ddweud ar yr awyr.
“Dw i’n mentora is-raddedigion y Cyfryngau,” meddai.
“Dw i’n trafod y diwydiant a phwrpas sylwebaethau gyda nhw.
“A oes yna unrhyw un sy’n trafod hynny â chyd-sylwebyddion sy’n camu’n syth oddi ar y cae ac yn codi’r meicroffôn?
“A oes yna unrhyw un sy’n trafod eu proses o feddwl gyda nhw, a’r cyfrifoldebau a ddaw gyda darlledu?”
Mae’n dweud iddo anfon llythyr at y PFA yn awgrymu bod hyfforddiant ar gael “oherwydd gall fod cyd-sylwebyddion, cyn-chwaraewyr, eu haelodau fod wedi cyfrannu at yr ystrydebau yn y casgliadau hyn”.
Mae’n dweud bod y mwyafrif o safbwyntiau sy’n cael eu mynegi yn ystod sylwebaethau’n dod gan gyd-sylwebwyr yn hytrach na’r prif sylwebwyr.
Mae’n dweud ymhellach fod “unrhyw beth sy’n gwneud i chi feddwl am sut rydych chi’n sylwebu’n beth da”, ac mai dyma’r tro cyntaf iddo weld astudiaeth o’r fath ar sylwebu.
“Ar wahân i’r holl ystrydebau a’r heip rydy ni’n cael ein cyhuddo ohono fe, rydyn ni’n ceisio, neu fe ddylen ni fod yn ceisio defnyddio’r iaith yn gywir ac mewn modd cyfrifol,” meddai.
“Nid yn unig mae ystrydebau hiliol yn anghywir, yn foesol anghywir, maen nhw hefyd yn anghyfrifol.
“Maen nhw’n ddiog, yn ddi-feddwl, ac yn fy marn fawr i, mae llawer gormod o sylwebaeth chwaraeon yn ddiog ac yn ddi-feddwl.”