Mae pobol yn ardaloedd tlotaf Cymru’n gwneud llai o ymarfer corff tra bod pobol mewn ardaloedd mwy cyfoethog yn gwneud mwy yn ystod ymlediad y coronafeirws, yn ôl ymchwil newydd.
Yn ôl Chwaraeon Cymru, mae 39% o oedolion o gefndiroedd mwy llewyrchus yn gwneud mwy, tra bod 32% yn gwneud llai.
Ymhlith oedolion o lefydd llai llewyrchus, dim ond 29% sy’n gwneud mwy, tra bod 33% yn gwneud llai.
Dim ond 23% o rieni o lefydd llai breintiedig sy’n dweud bod eu plant yn gwneud mwy o ymarfer corff, gyda 36% yn dweud eu bod nhw’n gwneud llai.
Daw’r casgliadau wrth i Bwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu gyhoeddi adroddiad ar y mater.
Chwaraeon wedi dioddef
Mae’r pwyllgor wedi bod yn clywed sut mae campau amrywiol wedi cael eu heffeithio gan y feirws.
Daeth yr holl chwaraeon i ben yng Nghymru ar ddechrau ymlediad y coronafeirws, a dim ond yn ddiweddar mae cyrtiau a thraciau awyr agored wedi cael agor eto.
Mae Undeb Rygbi Cymru’n dweud eu bod nhw’n debygol o ddiodde’n sylweddol yn sgil dirwyn rygbi proffesiynol i ben am y tro, gan gynnwys gohirio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n rhybuddio am effaith y feirws ar y gêm ar lawr gwlad.
Tra bod y pwyllgor yn cydnabod yr ymdrechion sydd wedi’u gwneud i sicrhau bod pobol yn parhau i wneud ymarfer corff yn ystod yr ymlediad, maen nhw hefyd yn cydnabod fod chwaraeon wedi dioddef yn ystod y cyfnod hwn.
“Fel cynifer o sectorau a chymunedau eraill, mae chwaraeon wedi cael ei dorri’n sylweddol gan y coronafeirws a’r mesurau fu’n rhaid i lywodraethau eu cyflwyno i arafu ei ymlediad ac i warchod bywydau,” meddai Helen Mary Jones, cadeirydd dros dro’r pwyllgor.
“Rydym yn canmol llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru am annog rhyw fath o ymarfer corff yn ystod y gwarchae gan fod hynny’n gydnabyddiaeth o bwysigrwydd a manteision posib gweithgareddau ar iechyd a lles corfforol a meddyliol.
“Mae’r gwahaniaeth yn y lefelau ymarfer corff rhwng cymunedau yn bryder mawr a rhaid i ni warchod rhag ehangu’r bwlch neu ddiffyg ymarfer corff yn dod yn arfer.
“Rydym yn annod Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn fel rhan o’i chynllun adfer ac i gydweithio ag awdurdodau lleol wrth ddarparu cefnogaeth ddigonol er mwyn sicrhau bod ymddiriedolaethau hamdden a chlybiau cymunedol ar draws y wlad yn goroesi.”
Argymhellion
Mae’r pwyllgor wedi cyflwyno cyfres o argymhellion, gan gynnwys cyflwyno pecyn cymorth i’r sector gael mynd i’r afael â’r bwlch cyfoeth.
Dywed y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio ag awdurdodau lleol i ystyried faint o gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer clybiau cymunedol ac ymddiriedolaethau hamdden.
Dylai arweiniad hefyd gael ei roi ar y cyd â chyrff llywodraethu chwaraeon a darparwyr cyfleusterau “cyn gynted â phosib” ar dorfeydd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, yn ôl y pwyllgor.