Mae trafodaethau wedi dechrau i ychwanegu pedwar tîm Super Rugby o Dde Affrica i gystadleuaeth y Pro14.

Mewn cyfarfod arbennig pleidleisiodd Undeb Rygbi De Affrica i ddechrau’r trafodaethau a fyddai’n gweld y Bulls, Stormers, Sharks a’r Lions yn ymuno â’r gystadleuaeth.

Mae’r Southern Kings a’r Cheetahs, dau dîm o Dde Affrica wedi bod yn chware yn y gystadleuaeth ers 2017.

Er hyn yn sgil y Coronafeirws mae’r ddau dîm wedi tynnu nôl o’r gystadleuaeth tan y flwyddyn newydd.

Mae penaethiaid Pro14 yn gobeithio bydd modd i’r pedwar tîm newydd ymuno â’r Southern Kings a’r Cheetahs bryd hynny.

Mae timau o Gymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal hefyd yn chwarae yn y gystadleuaeth.

Osgoi trafferthion ariannol

Eglurodd llywydd Undeb Rygbi De Affrica, Mark Alexander, mai osgoi trafferthion ariannol yw nod yr undeb.

“Mae’n amser rhyfeddol, pe bai hon wedi bod yn flwyddyn gyffredin ni fyddem wedi cael y cyfarfod hwn”, meddai.

“Ond roedd angen i ni gymryd camau radical i osgoi trafferthion ariannol oherwydd argyfwng Covid-19.”

Penwythnos agoriadol

Mae tymor 2020-21 y Pro14 yn dechrau’r penwythnos yma.

Bydd Gleision Caerdydd yn wynebu Zebra yn Parma, a’r Dreigiau yn teithio i Leinster ddydd Gwener (Med 2).

Ddydd Sadwrn (Medi 3) bydd y Scarlets yn croesawu Munster a bydd y Gweilch yn teithio i Gaeredin.