Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn bwriadu apelio yn erbyn dyfarniad llys sy’n rhwystro cau ysgolion ym Mhontypridd.

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bwriadu cau chwe ysgol, cael gwared ar y chweched dosbarth mewn tair ysgol, a chodi dwy ysgol gydol oes yn eu lle.

Mae un o’r ysgolion cynradd a oedd dan fygythiad yn darparu addysg uniaith Gymraeg, Ysgol Pont Siôn Norton.

Fis Gorffennaf eleni llwyddodd ymgyrchwyr, grŵp Ein Plant yn Gyntaf, argyhoeddi’r barnwr bod y Cyngor wedi methu ag ystyried effaith y cam ar y Gymraeg.

Ond yn ei apêl mae’r cyngor yn honni ei fod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac y byddai gweinidogion nawr yn cefnogi’r apêl.

Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd y Cyngor Sir, ei fod yn cydnabod y pryderon a godwyd gan breswylwyr, disgyblion a grwpiau ymgyrchu, ond mynnodd mai’r nod oedd “trawsnewid y modd y darperir addysg yn gadarnhaol” yn ardal Pontypridd.

‘Hynod siomedig’

Eglurodd Cathy Lisles, Cadeirydd grŵp Ein Plant Yn Gyntaf, ei bod yn “hynod siomedig” gyda phenderfyniad y cyngor i apelio.

“Mae’r cyngor yn parhau i ddangos amarch llwyr i’r effaith a gaiff y cynlluniau yma ar les y plant yn enwedig y rhai sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig”, meddai.

“Rydym yn gresynu na fyddai’r cyngor wedi gweld ffordd i ymgynghori gyda byrddau llywodraethol ysgolion a’r cymunedau lleol o’r cychwyn cyntaf nôl yn 2017 yn hytrach na holi am farn wedi iddynt gwblhau eu cynlluniau.

“Mae’r buddsoddiad ariannol i’w groesawu ond nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd addysg ym Mhontypridd yn gwella o ganlyniad i’r cynlluniau penodol yma.

“Dylai Addysg Gymraeg fod yn hygyrch i bawb yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

“Dylai pob plentyn gael y cyfle i dderbyn eu haddysg o fewn eu cymuned leol. Rydym yn benderfynol o barhau i frwydro i sicrhau cydraddoldeb addysgol i bob plentyn yn ein hardal a’r dyfodol gorau bosib iddyn nhw.”

Ychwanegodd Cathy Lisles bod grŵp Ein Plant yn Gyntaf yn gofyn i’r cyngor ystyried effaith y llifogydd diweddar a Covid-19 ar ardal Pontypridd ac os mai “dyma’r ffordd orau o wario arian cyhoeddus yn ystod y cyfnod dyrys ac anodd hwn”.