Mae cynlluniau gwerth £37m i gau ysgolion ym Mhontypridd wedi cael eu rhwystro yn rhannol oherwydd y goblygiadau i’r Gymraeg.

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bwriadu cau chwe ysgol, gwaredu’r chweched dosbarth mewn tair ysgol, a chodi dwy ysgol fawr (ar gyfer disgyblion 3-16 oed) yn eu lle.

Roedd un o’r ysgolion cynradd a oedd dan fygythiad yn darparu addysg uniaith Gymraeg – Ysgol Pont Siôn Norton – ac roedd hyn yn destun trafod mewn achos Uchel Lys heddiw.

Llwyddodd ymgyrchwyr, grŵp Ein Plant yn Gyntaf, ag argyhoeddi’r barnwr bod y Cyngor wedi methu ag ystyried effaith y cam ar y Gymraeg.

Dyfarnwyd yn erbyn y cynlluniau yn rhannol am beidio â chyfeirio cynlluniau i waredu chweched dosbarth i Lywodraeth Cymru.

Y Gymraeg

Dyfarnodd y barnwr bod gwaredu ysgolion cynradd Cymraeg yn tanseilio cynaliadwyedd ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Gwnaeth cyfreithwyr yr ymgyrchwyr ddadlau bod fersiwn Cymraeg o’r cyfreithiau ynghylch cyfrifoldebau’r Cyngor yn gliriach, tra bod y Cyngor wedi dadlau y dylid rhoi mwy o bwys ar y testun Saesneg.

Ac mae arbenigwyr wedi nodi bod dyfarniad heddiw yn gam mawr i ddeddfwriaeth yng Nghymru am fod y Gymraeg wedi bod yn ganolog i’r achos.

Ymateb y Comisiynydd

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ymateb i’r dyfarniad trwy bwysleisio nad oes modd i gynghorau esgeuluso’r iaith.

“Mae’r achos hwn yn dangos yn glir i gynghorau fod rhaid i ddisgyblion dderbyn addysg o leiaf o’r un safon a gyda’r un cyfleoedd yn yr iaith o’u dewis hwy,” meddai Aled Roberts.

“Nid yw hyn yn ddewis, ond yn orfodol yng Nghymru.

“Mae hefyd yn nodi yn hollol glir, gydag unrhyw gynigion sydd yn mynd i effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg, mae’n rhaid cynnal asesiad trylwyr o’r effaith. Nid dewisol yw hyn chwaith.”

Mae’r Comisiynydd eisoes yn cynnal dau ymchwiliad i ystyried os ydy’r Cyngor wedi torri Safonau’r Gymraeg wrth beidio ystyried effaith cau’r ysgolion ar y Gymraeg.