Mae trafodaethau gyda Ffrainc ar ailddechrau masnach a thrafnidiaeth lawn ar draws y Sianel yn parhau ddydd Mawrth (22 Rhagfyr) yng nghanol rhybuddion bod yn rhaid i’r ffin fod yn agored eto erbyn dydd Mercher er mwyn osgoi tarfu ar gyflenwadau bwyd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel fod y Llywodraeth yn “siarad yn gyson” â Ffrainc i ddod i benderfyniad “er ein budd ni i gyd” i gael cludo nwyddau eto.
Mae mwy na 40 o wledydd wedi gwahardd hediadau o’r Deyrna Unedig oherwydd yr amrywiolyn o’r coronafeirws sy’n lledaenu, tra bod gyrwyr lorïau wedi treulio ail noson yn cysgu yn eu cabiau ar yr M20 y tu allan i Borthladd Dover, sydd ar gau ers nos Sul.
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai ateb posibl ddod drwy brofion torfol ar yrwyr HGV ar draws y Sianel, tra bo’r BBC yn dweud y bydd cynlluniau i ailagor y ffin yn dod i rym o ddydd Mercher, gan ddyfynnu Clement Beaune, Gweinidog Ewrop Ffrainc.
Dywedodd Andrew Opie, cyfarwyddwr bwyd a chynaliadwyedd Consortiwm Manwerthu Prydain, fod “gwir angen i’r ffiniau fod yn rhedeg yn eithaf rhydd o yfory ymlaen i’n sicrhau na fydd unrhyw darfu”.
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Mae problem o bosib yn syth ar ôl y Nadolig o ran cynnyrch ffres, felly rydyn ni’n siarad yma am bethau fel salad, llysiau, ffrwythau ffres, y daw’r mwyafrif llethol ohonynt o Ewrop ar hyn o bryd.
Lorïau gwag
“Y broblem mewn gwirionedd yw lorïau gwag, felly’r lorïau gwag sydd bellach wedi’u dal yng Nghaint, mae angen iddynt fynd yn ôl i leoedd fel Sbaen i godi’r llwyth nesaf o fafon a mefus ac mae angen iddynt fynd yn ôl o fewn diwrnod, neu fel arall byddwn yn gweld tarfu.”
Ychwanegodd: “Cyn belled â’n bod gallu clirio hyn heddiw, ni fydd fawr o effaith ar ddefnyddwyr – cofiwch fod y siopau ar gau ar Ddydd Nadolig, sy’n cymryd un diwrnod o brynu allan o’r mater, ond y lorïau hynny sy’n sownd yng Nghaint… mae angen iddyn nhw fynd yn ôl o fewn diwrnod.”
Dywedodd Ms Patel wrth Sky News: “Rydym yn siarad â’n cydweithwyr yn Ffrainc yn gyson ar amrywiaeth o faterion ac mae gwaith wedi bod yn digwydd dros y 24 awr ddiwethaf a byddwn yn parhau heddiw.
“Rydyn ni’n gweithio i gael penderfyniad… rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn i roi hyn yn ei gyd-destun. Mae o fantais i’r ddwy wlad i sicrhau bod gennym lif, ac wrth gwrs mae cludwyr Ewropeaidd ar hyn o bryd sydd am fod yn mynd adref ac, a dweud y gwir, mae o fudd ni i gyd i barhau â’r trafodaethau… ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau a byddwn yn gweld beth sy’n digwydd heddiw.”
Yn y cyfamser, mae Duncan Buchanan, cyfarwyddwr polisi Cymru a Lloegr y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd, wrth ASau ei fod yn siomedig gyda’r ffordd y cyflwynodd y Llywodraeth y lefelau tarfu nos Lun.
“Roeddem yn siomedig iawn oherwydd y ffordd y cafodd ei bortreadu neithiwr – roedd fel petai’n ceisio lleihau natur y broblem,” meddai wrth Bwyllgor Strategaeth Busnes, Ynni a Diwydiant San Steffan.
“Mae hon yn broblem ddifrifol iawn – p’un a ydych wedi symud tryciau o un lle i’r llall, mae hynny’n amherthnasol.
“Mae hon yn lefel wahanol iawn o darfu ar y gadwyn gyflenwi, o’r math nad ydym erioed wedi’i brofi, mae’n debyg.
“Mae llawer o’r manwerthwyr yn dweud ein bod yn iawn hyd at y Nadolig, ond mae’n rhaid i ni wella’n gyflym iawn i gadw’r siopau wedi’u stocio’n llawn ar ôl y Nadolig. Mae’n bryder mawr.”
Mae trafodaethau gyda llywodraeth Ffrainc yn “parhau” ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson ddweud nos Lun bod y ddwy wlad yn gweithio “i ddadrwystro llif y fasnach cyn gynted â phosib”.
Cafodd yr M20 yng Nghaint ei chau nos Lun i ganiatáu gweithredu Ymgyrch Brock – mesurau wrth gefn sy’n golygu defnyddio rhwystr symudol i gadw traffig yn symud ar y draffordd pryd bynnag y bydd tarfu ar y Sianel.