Cynyddodd benthyca Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r swm uchaf erioed – sef £31.6 biliwn – ym mis Tachwedd, wrth i ymdrechion gynyddu i gefnogi’r economi drwy ail don y pandemig, mae ffigurau swyddogol wedi dangos.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod benthyca’r mis diwethaf – ac eithrio banciau sy’n eiddo i’r wladwriaeth – wedi codi £26 biliwn o flwyddyn i flwyddyn ac mai dyna’r uchaf a welwyd ar gyfer mis Tachwedd, a’r swm uchaf ond dau mewn unrhyw fis ers dechrau cadw cofnodion ym 1993.

Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, cyrhaeddodd dyled net y sector cyhoeddus lefel uchel newydd o £2.1 triliwn ddiwedd y mis diwethaf.

Mae’n golygu bod dyled gyffredinol y Deyrnas Unedig bellach tua 99.5% o’r cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), sy’n fesur o faint yr economi – lefel nas gwelwyd ers 1962.

Mae benthyca wedi taro £240.9 biliwn yn wyth mis cyntaf y flwyddyn ariannol – £188.6 biliwn yn fwy o flwyddyn i flwyddyn… sy’n record arall eto fyth.

Mae rhagolygon swyddogol diweddar gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn rhagweld y gallai benthyca gyrraedd £393.5 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth – dyna fyddai’r uchaf a welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.

Ffyrlo

Daw hyn wedi i’r Llywodraeth lansio mwy na 40 o gynlluniau ledled y Deyrnas Unedig i helpu aelwydydd a busnesau drwy argyfwng y coronafeirws.

Un o’r rhai mwyaf costus fu’r cynllun ffyrlo i weithwyr, a gafodd ei ymestyn eto yr wythnos ddiwethaf, a hynny tan fis Ebrill 2021.

Dangosodd y ffigurau diweddaraf gan Gyllid a Thollau gwerth £3.4 biliwn arall o hawliadau rhwng 15 Tachwedd a Rhagfyr 13, gan fynd â chyfanswm yr hawliadau i £46.4 biliwn gyda 9.9 miliwn o swyddi ar ffyrlo.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod benthyca wedi codi wrth i dderbyniadau treth ac Yswiriant Gwladol ostwng £38.3 biliwn – neu 8.6% – flwyddyn i flwyddyn yn yr wyth mis hyd at fis Tachwedd.

Ond cyfrannodd cefnogaeth y llywodraeth i unigolion a busnesau yn ystod y pandemig at gynnydd o 30%, neu £147.3 biliwn, yng ngwariant llywodraeth ganolog.