Er bod arweinydd Cyngor Gwynedd wedi croesawu y bydd cynnydd bychan mewn treth ar gyfer perchnogion ail dai mae wedi rhybuddio fod bwlch yn parhau yn y ddeddfwriaeth sy’n galluogi perchnogion ail dai i osgoi talu treth ar eiddo yng Nghymru.

Gwynedd yw’r sir sydd â’r ganran uchaf o dai gwyliau yng Nghymru – 10.77% o stoc dai’r sir.

Yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru cyhoeddwyd y bydd cynnydd o 1% yng nghyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir.

Golyga hyn fod y trethi cymharol uwch sy’n cael eu talu wrth brynu eiddo ychwanegol, fel ail gartrefi neu dai sy’n cael eu prynu er mwyn eu gosod, yn cefnogi tai cymdeithasol a swyddi newydd.

Mae llawer eisoes wedi nodi bod y cynnydd hwn yn rhy fach.

‘Colli miliynau oherwydd y bwlch’

Ond pryder y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yw fod pobol yn parhau i allu cofrestru eu heiddo fel cwmniau gan felly symud i’r Dreth Fusnes.

“Dydy rhain ddim yn cyfrannu’r un geiniog tuag at wasanaethau lleol fel goleuadau stryd, ailgylchu, casgliadau sbwriel a seilwaith ffyrdd,” meddai.

“Cyhoeddodd y Gweinidog y gallai’r cynnydd mewn treth trafodion tir godi miliynau o bunnoedd ar gyfer tai cymdeithasol.

“Yma yng Ngwynedd, un sir o’r 22 sir yng Nghymru, rydym yn colli miliynau o bunnoedd mewn trethi bob blwyddyn, oherwydd y bwlch yn Neddf Cyllid Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i’r afael â’r mater hwn ar fyrder.”

Newid defnydd tai

Mae Cyngor Gwynedd hefyd eisiau gweld perchnogion tai yn gorfod gofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol i newid defnydd eiddo i lety gwyliau tymor byr, ac y dylid cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer gosod gwyliau tymor byr.

“Byddai cyflwyno mesurau o’r fath yn caniatáu i ni reoli ein stoc dai yn well, gan sicrhau bod darpariaeth o gartrefi ar gael i bobl leol,” ychwanegodd Dyfrig Siencyn.

Cyhoeddwyd cynllun chwe blynedd, gwerth £77 miliwn yn ddiweddar gan Gyngor Gwynedd, i sicrhau 1,500 o gartrefi fforddiadwy i drigolion lleol.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb i “ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd a’r economi”

A bydd cynnydd yn y dreth ar ail gartrefi er mwyn cefnogi tai cymdeithasol