Ar ddiwedd blwyddyn dra gwahanol, mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi bod yn sgwrsio gyda golwg360 gan edrych yn ôl ar y cyfnod, a thrafod ei swyddogaeth, ei weledigaeth, a’i obeithion ar gyfer y dyfodol.
Ers cael ei ethol yn 2017, mae’r gwleidydd wedi wynebu un o’r cyfnodau fwyaf cythryblus mewn hanes gwleidyddiaeth, yn sgil y pandemig ac ansicrwydd Brexit.
Efallai nad yw’n syndod, felly, ei fod yn derbyn neges e-bost unwaith bob munud, ar ei gyfnodau prysura.
Mae’r sefyllfa hefyd wedi golygu bod rhaid iddo addasu ei obeithion a’i flaenoriaethau gwleidyddol, er mwyn bod yn gefn ac yn glust i’r gymuned leol.
“Y peth mwyaf fedri di wneud i helpu rhywun yw codi’r ffon”
“Mae tipyn o’r blaenoriaethau byddai gwleidydd bach ifanc wedi gobeithio gallu mynd ar eu holau nhw… wel, dw i heb gael y cyfle i wneud,” eglura Ben Lake.
“Mae’r holl bethau ’na… yr holl broblemau ac achosion odde ti am ei wneud – does dim digon o gyfle i wneud hynny, mewn modd effeithiol.
Ymhlith ei obeithion, meddai, roedd mynd i’r afael â materion yn ymwneud a pholisi tai a datblygu economi ein hardaloedd gwledig.
Ond er gwaethaf ei rwystrediagaeth, dywedodd: “Weithiau, y peth mwyaf fedri di wneud i helpu rhywun yw codi’r ffon,” meddai “a chael sgwrs fach, trio cysuro a rhannu unrhyw wybodaeth sydd gennyt ti.
“Os mai dyna yw ein swyddogaeth ni ar hyn o bryd ac os mai dyna allwn ni ei wneud i helpu pobl – pam lai!”
“Roeddwn i’n cael e-bost, bron a bod, unwaith y munud”
Eglurodd ei fod wedi cael cyfnodau “ffyrnig” o brysur dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ymateb i anghenion ei etholwyr.
“Dwi’n cyfeirio at yr inbox fel math o greadur byw,” meddai, “ac ma fe’n gallu rhoi cipolwg cyflym iawn i mi o beth yw’r ymdeimlad yng Ngheredigion.
“Ar un llaw, mae e’n gallu cyfleu beth yw’r pynciau llosg ond hefyd dwi’n gallu cymryd o’r inbox… dydi pobl ddim yn hapus neu mae pobl yn eithaf ok.
“Pan ddaeth y rheoliadau nol ym mis Mawrth, dechrau Ebrill, roeddwn i’n cael e-bost, bron a bod, unwaith y munud,” meddai.
Dywedodd bod ymateb i gymaint o negeseuon yn gallu bod yn heriol ar adegau ond fod ganddo dîm gweithgar o staff i’w gefnogi.
Problemau hen a newydd
Wrth drafod rhai o’r materion sydd wedi codi gwrychyn y gwleidydd dros y misoedd diwethaf, dywedodd:
“Mae hi wedi bod yn anodd ar adegau i weld unigolion ddylai wybod yn well, unai fel Aelod Seneddol, neu gynghorwyr, neu wleidyddion amlwg, yn mynd yn groes i’r rheolau maen nhw wedi gosod a chyflwyno iddyn nhw eu hunain.
“Beth sy’n rhwystredig am hynny, nid yn unig yw bod pawb arall yn dilyn y rheolau ac yn aberthu… mae gweld nhw’n cymryd mantais o’r sefyllfa yn fy ngwylltio i.
“A hefyd mae o’n gwylltio fi oherwydd yn dawel bach dros y flwyddyn mae hynny wedi cyfrannu fwy at amharodrwydd pobl i gydymffurfio.
Er ei fod yn cydnabod bod y pandemig wedi creu nifer o broblemau newydd, dywedodd fod wedi amlygu problemau eraill, sydd wedi bod yn berwi “o dan y wyneb” ers blynyddoedd.
“Un o’r rheini, yw’r ffydd a’r parch tuag at Lywodraethant y wlad,” meddai, “mae’n fwy na gwleidyddion… y ffordd mae’r wlad yn cael ei threfnu.”
“Rhaid i bawb chwarae eu rhan hyd yn oed yn fwy”
Wrth drafod y cynnydd diweddar mewn achosion o’r coronafeirws yng Ngheredigion, dywedodd:
“Mae’r profiad yn lleol yn dangos gymaint o fochyn o beth yw’r afiechyd ’ma! Mae e’n llwyddo i dreiddio drwy i’r bobl hynny sydd fwyaf gwan a bregus o ran iechyd.
“Be fi’n poeni nawr, yng Ngheredigion, yw bod y straen newydd yn dod i’r Sir ac mae ’na reswm i feddwl bod rhywfaint ohono fe ym mhob rhan o Gymru a bydd rhaid i bawb chwarae eu rhan hyd yn oed yn fwy.
“Yn y pen draw, fe ddaw diwrnod hyfryd, ble fydd pawb yn gallu cymysgu eto ac os y’n ni’n gwneud y gwaith caled nawr, fe ddaw’r diwrnod ’na’n gynt.”
Dywedodd bod rhai yn credu bod yr ysbryd cymunedol wedi gwanhau dros y blynyddoedd ond fod y pandemig wedi amlygu’r gwrthwyneb, yn ei farn ef.
“Mae’r profiad eleni wedi dangos bod hynny ddim wedi diflannu,” meddai, “efallai bod e’n wahanol a bod e ddim yn cael ei deimlo drwy gydol y flwyddyn ond pan y’n ni angen e mae ein cymunedau wedi dod at ei gilydd.”
“Brexit digytundeb yn glec anferthol”
Wrth i drafodaethau Brexit barhau, dywedodd Ben Lake byddai peidio cyrraedd cytundeb yn cael effaith niweidiol iawn ar Gymru:
“Byddai Brexit digytundeb yn glec anferthol i’r economi yng Nghymru ond hefyd cymunedau yng Nghymru ac mi fydda fe’n fethiant ar ran Llywodraeth San Steffan,” meddai.
“Fe bleidleisiodd pobol yn eu niferoedd a dydw i ddim yn beio nhw os mai dyna pam bleidleisio nhw.
“Ond os byddai’r Llywodraeth yn troi’n ôl ar hynny ac arwain ni allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb… mae’r difrod mae hynny’n mynd i greu, nid yn unig i’r economi ond hefyd i ffydd pobol a ffordd mae pobl yn ymddiried mewn gwleidyddion, yn bellgyrhaeddol ac yn mynd i bara blynyddoedd.
“Mae’n rhaid osgoi gadael heb gytundeb ar bob achos ac efallai byddai rhaid derbyn cytundeb sydd yn llawer llai nag un byddai rhywun wedi gobeithio.
“Ond yn well na gadael heb un yn gyfan gwbl – sy’n uffernol o sefyllfa,” meddai.