Mae ’na rybudd am amodau gyrru gwael mewn rhannau o Gymru bore ma (Dydd Gwener, Ionawr 8) oherwydd eira trwm.

Dywed Heddlu’r Gogledd bod yr amodau’n “heriol” ar yr A55 ger Caerwys yn Sir y Fflint a rhannau o Sir Ddinbych.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira mewn nifer o lefydd dros nos ac yn rhybuddio bod oedi i deithwyr yn debygol.

Mae’r heddlu’n rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd.

“Mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac i sicrhau bod eu ffenestri a goleuadau yn glir o rew ac eira cyn dechrau eu siwrne.”