Mae swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod y terfysgoedd yn Capitol Hill yn Washington wedi marw, meddai’r heddlu yn yr Unol Daleithiau.

Bu farw Brian D Sicknick ddydd Iau o ganlyniad i anafiadau a gafodd pan oedd ar ddyletswydd ac wrth i brotestwyr geisio meddiannu adeiladau’r Gyngres ddydd Mercher.

Cafodd yr heddwas ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Daw hyn a chyfanswm y rhai sydd wedi marw yn y digwyddiad i bump.

Roedd cefnogwyr yr Arlywydd Trump wedi cynnal protest yno wrth i aelodau’r Gyngres gymeradwyo canlyniad yr etholiad arlywyddol.

Yn y cyfamser mae Donald Trump wedi cyhoeddi neges yn condemnio’r trais yn Washington ddydd Mercher, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o annog y protestwyr i orymdeithio i Capitol Hill gan honni bod twyll etholiadol wedi arwain at fuddugoliaeth y Democrat Joe Biden.

Mae galwadau cynyddol gan y Democratiaid i’w orfodi i adael y Tŷ Gwyn ar unwaith.