Mae’r heddlu’n apelio ar y cyhoedd i gadw at gyfyngiadau teithio Cymru ar ôl i dorfeydd heidio i barciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.

Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn cynnal patrolau amlwg yn Eryri yn sgil y niferoedd mawr yno, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn brysur ym Mannau Brycheiniog.

Roedd un wedi gyrru o Swydd Hertford i ddringo Pen-y-Fan, ac roedd llond bws mini o deuluoedd cymysg wedi teithio i’r ardal o Chelteham yn Swydd Gaerloyw.

“Rydym yn cynnal patrolau amlwg yn Storey Arms ac yn atgoffa pobl o’u cyfrifoldebau i lynu at gyfyngiadau clo Llywodraeth Cymru,” meddai’r Arolygydd Andrew Williams o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae hysbysiadau cosb yn cael eu cyflwyno lle rydym yn methu dwyn perswad, ond mae’r mwyafrif o bobl yn gwrando ar gyngor a throi’n ôl a mynd adref.”

‘Sioc’

Dywedodd y Cyng Graham Breeze o gabinet Cyngor Sir Powys fod y niferoedd mawr sy’n teithio i Fannau Brycheiniog yn ‘sioc’ iddo.

“Mae gan Powys lleoedd hyfryd i ymweld â nhw, ond fe fyddan nhw’n dal yma ar ôl i’r niferoedd mawr o achosion coronafeirws leihau,” meddai. “Efallai na fydd hyn yn wir am rai o’ch perthnasau a’ch ffrindiau os byddan nhw’n dal yr afiechyd marwol hwn.

“Mae angen i bawb chwarae eu rhan ac aros adref dros y dyddiau a’r wythnosau o’n blaenau – waeth faint mae mynyddoedd, bryniau a llynnoedd y sir yn ein denu.”