Mae un o fyrddau iechyd Cymru wedi rhybuddio bod y sefyllfa yn ei ysbytai yn “hynod o ddifrifol”.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fod y nifer o gleifion Covid-19 sydd angen triniaeth ysbyty wedi codi’n sylweddol, a bod y niferoedd yn eu hunedau gofal dwys ar eu huchaf ers anterth cyntaf y pandemig.

Mae’r bwrdd iechyd yn gwasanaethu siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, sydd â rhai o’r cyfraddau coronafeirws uchaf yng Nghymru.

Er bod eu staff yn gallu dygymod ar hyn o bryd, mae pryder y bydd y sefyllfa’n mynd yn fwyfwy anodd wrth i’r niferoedd o gleifion godi, ac os bydd rhagor o’r staff yn mynd yn sâl.

“Hoffem dalu teyrnged i’n staff sy’n gweithio’n anhygoel o galed i ofalu am ein cleifion wrth inni wynebu’r galw trymach nag erioed am ein gwasanaethau brys,” meddai’r bwrdd mewn datganiad.