Wrth agor y ddadl yn Nhy’r Cyffredin y bore yma ar y cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd, mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi pwyso ar Aelodau Seneddol i gefnogi’r cytundeb.

Os caiff y cytundeb gefnogaeth dau dy’r senedd heddiw – fel sy’n debygol – fe ddaw i rym am 11 o’r gloch nos yfory pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben.

Dywedodd Boris Johnson y byddai’r cytundeb yn cynnig “sicrwydd” i fusnesau.

“Rydym am agor pennod newydd yn ein stori genedlaethol, yn taro bargeinion masnach rydd ledled y byd ac yn ail-gadarnhau’r Brydain fyd-eang fel grym rhyddfrydig ac eangfrydig er daioni,” meddai.

Dywedodd arweinydd Llafur ei fod yn cefnogi’r mesur gan ei fod y lleiaf o ddau ddrwg.

“Mae’r cytundeb yn ddiffygiol, ond byddai diweddu’r cyfnod pontio heb gytundeb yn waeth fyth,” meddai Syr Keir Starmer. Mae’r gwrthbleidiau eraill yn gwrthwynebu’r mesur.

Yn y cyfamser, mae llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen a llywydd Cyngor Ewrop, Charles Michel, wedi arwyddo’r cytundeb yn ffurfiol.

Yn dilyn seremoni fer ym Mrwsel, cafodd y dogfennau eu hedfan i Lundain gan yr RAF i Boris Johnson eu harwyddo.