Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb Brexit rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd pan fydd yn cael ei drafod yn Nhy’r Cyffredin yfory (dydd Mercher).

“Nid yw Plaid Cymru erioed wedi pleidleisio yn erbyn buddiannau economaidd Cymru a fydd hynny byth yn newid,” meddai’r arweinydd Adam Price mewn trydariad.

Mae hyn yn dilyn sylwadau’r arweinydd seneddol Liz Saville Roberts pan gafodd y cytundeb ei gyhoeddi bnawn Iau diwethaf. Fe ddywedodd bryd hynny na allai Plaid Cymru gefnogi cytundeb “niweidiol” nac “un sy’n llawer gwaeth i Gymru na’r hyn sydd ganddi ar hyn o bryd”.

Daw penderfyniad Plaid Cymru ar ôl cyhoeddiad gan ASau’r SNP y byddan nhw’n gwrthwynebu’r cytundeb, ac mae holl bleidiau Gogledd Iwerddon, a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn bwriadu gwneud yr un fath.

Mae’n golygu mai Llafur fydd yr unig wrthblaid yn San Steffan i gefnogi’r cytundeb, er bod disgwyl i gryn nifer o’i ASau, gan gynnwys rhai o Gymru, fynd yn groes i ddymuniadau eu harweinydd.