Mae Prif Weinidog yr Alban wedi pwyso ar bobl i aros adref nos Galan wrth i nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws ddal i godi.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos 1,895 newydd wedi eu cadarnhau heddiw, dydd Mawrth 29 Rhagfyr, gan godi’r cyfanswm i 122,786. Mae cyfradd yr achosion positif hefyd wedi codi i 14.4% heddiw, o gymharu â 12.2% ddoe.
Mae saith yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi ers y Nadolig, er bod swyddfeydd cofrestru wedi bod ar gau yn ystod y gwyliau cyhoeddus.
Mae Nicola Sturgeon yn rhybuddio pobl yn erbyn trefnu partïon yn nhai ei gilydd nos Iau.
“Mae achosion Covid yn codi,” meddai mewn trydariad. “Mae cyfyngiadau Lefel 4 mewn grym ledled tir mawr yr Alban i wrthsefyll y straeon newydd.
“Mae’n arbennig o hanfodol nad ydym yn cymysgu o dan do gyda theuluoedd eraill, gan gynnwys noson Hogmanay. Dw i’n gofyn ichi gynllunio i groesawu 2021 adref gyda’ch teulu eich hun.”