Mae Llywodraeth yr Alban yn rhybuddio y bydd pysgotwyr yr Alban ar eu colled yn sgil y cytundeb Brexit.
Dywed gweinidogion y bydd cwotâu’r Deyrnas Unedig yn y pysgod y bydd hawl ganddi i’w dal yn gostwng ar gyfer y rhan fwyaf o’r prif rywogaethau. O ganlyniad, bydd y gyfran yn is ar ddiwedd y cyfnod pum mlynedd a hanner a gafodd ei gytuno na’r hyn yw ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn cadw tua 63.5% o’r penfras a gaiff eu dal ym Môr y Gogledd, ond yn ôl dadansoddiad Llywodraeth yr Alban, fe fydd hyn yn gostwng i 57% o dan amodau’r cytundeb newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Wledig, Fergus Ewing, fod y dadansoddiad yn peri pryder mawr.
“Dywedwyd wrth gymunedau arfordirol yr Alban y byddai unrhyw gytundeb Brexit yn golygu cynnydd mawr mewn cyfleoedd pysgota,” meddai.
“Mewn gwirionedd, o ran y pysgod allweddol mae’r Alban yn dibynnu arnyn nhw, fe fydd cwymp yn nifer y pysgod y gallan nhw eu dal.
“Mae pysgodfeydd hefyd yn rhan o’r cytundeb yn ei gyfanrwydd, sy’n golygu y bydd unrhyw ymgais i leihau cyfran yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol yn arwain at sancsiynau masnach – gan daro diwydiannau allweddol yr Alban fel cynhyrchwyr eog.
“Mae’n peri pryder am ddyfodol buddiannau pysgota’r Alban.”
‘Torri addewid’
Mae’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon hefyd yn feirniadol iawn o’r cytundeb.
“Gwell bargen ar gyfer pysgota yw’r unig gyfiawnhad dros Brexit mae’r Torïaid erioed wedi gallu ei gynnig i’r Alban,” meddai.
“Mae’r dadansoddiad yn dangos cymaint maen nhw wedi torri’r addewid hwnnw. I rai pysgod allweddol mae’r cytundeb yn waeth na’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.”
Wrth ymateb i’r feirniadaeth, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain:
“Mae’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno Cytundeb hanesyddol ar Fframwaith Pysgodfeydd sy’n adlewyrchu statws newydd y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol, ac mae’n gweithio i amddiffyn hawliau pysgotwyr ledled y Deyrnas Unedig.
“Trwy adennill rheolaeth o’n dyfroedd, mae’r cytundeb hwn yn ein rhoi ni mewn sefylla i ailadeiladu’n fflyd bysgota a chael cynnydd mewn cwotâu pysgota trwy drafodaethau blynyddol gyda’r Undeb Ewropeaidd.”