Mae o leiaf bump o bobl, gan gynnwys merch 12 oed, wedi cael eu lladd mewn daeargryn cryf yng nghanol Croatia.

Mae o leiaf 20 o bobl eraill wedi eu hanafu yn y daeargryn a oedd yn mesur 6.3, sydd wedi achosi difrod mawr i gartrefi ac adeiladau eraill mewn tref 28 milltir i’r de-ddwyrain o’r brifddinas Zagreb.

Roedd y dref, Petrinja, ac iddi boblogaeth o 25,000, wedi cael ei tharo gan ddaeargryn llai ddoe.

Yn ôl adroddiadau, mae tua hanner y dref wedi ei dinistrio’n llwyr, a pharhau mae’r chwilio drwy’r adfeilion yn y dref i weld a oes rhagor o bobl i’w hachub yno.

Cafodd y daeargryn ei deimlo ledled y wlad ac yn y gwledydd cyfagos Serbia, Bosnia a Slovenia a chyn belled i ffwrdd â Graz yn ne Awstria.

Cafodd gorsaf bwer niwclear Krsko yn Slovenia, sydd ar y ffin â Croatia, ac sy’n cael ei redeg ar y cyd gan y ddwy wlad, ei gau am gyfnod wedi’r daeargryn.