Mae ’man geni’r GIG’ yn Nhredegar wedi cael ei droi’n ganolfan gymunedol, diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yr adeilad hanesyddol hwn oedd cartref Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, yr esiampl a gafodd ei defnyddio gan Aneurin Bevan ar gyfer creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948.

Cafodd yr adeilad dros £142,000 o arian y rhaglen Trawsnewid Trefi, ynghyd â £240,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri drwy Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo a Menter Treftadaeth Treflun Tredegar.

Bydd y ganolfan yn lle i bobol weithio, dysgu, a dathlu hanes Tredegar a’r GIG.

Pwysigrwydd dathlu’r hyn a ysbrydolodd y GIG

Mae Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Lleol Llywodraeth Cymru yn croesawu’r cynllun i adnewyddu Rhif 10, The Circle.

Dywedodd Hannah Blythyn:

“Mae’r adeilad hwn yn bwysig iawn i’n hanes ni a bydd ei adnewyddu’n dod â budd i’r gymuned, gan dyfu’n ganolfan iddi gan ddenu rhagor o bobl i ganol y dref.

“Yn yr adeilad bach hwn y datblygwyd y gofal iechyd rydyn ni’n ei adnabod heddiw.

“Eleni, yn fwy nag erioed, dylem ddathlu rhan y dref o ran ysbrydoli’r gwasanaeth hynod bwysig hwn,” meddai Hannah Blythyn.

“Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach cynnal trefi a phrif strydoedd ledled Cymru ac mae’n wych gweld sut mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei defnyddio i helpu i gadw’r adeilad hwn yn rhan o hanes Tredegar, er lles i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.”

Adlewyrchu taith GIG Cymru

Meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, “Dros y 72 o flynyddoedd diwethaf, mae’r GIG wedi bod yno i ni.

“A buodd hynny erioed yn fwy gwir na thros y 10 mis diwethaf, wrth i ni i gyd wynebu rhai o ddyddiau duaf Cymru. Ac mae’r GIG wedi bod yno – er o dan bwysau aruthrol – bob cam o’r ffordd.

“Mae gweddnewidiad yr adeilad hanesyddol hwn yn adlewyrchu taith GIG Cymru dros y saith degawd diwethaf; o egin syniad Aneurin Bevan o Wasanaeth Iechyd i bawb i’r sefydliad o fri rhyngwladol sydd gennym heddiw.”

“Gwneud gwahaniaeth yn lleol”

Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Dyma newyddion ffantastig bod un arall o adeiladau hanesyddol Tredegar wedi’i adnewyddu, gan ychwanegu at ein portffolio o adeiladau sydd wedi’u hadfer.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o sut mae’r rhaglen yn cefnogi gwelliannau pwysig er lles cymunedau cyfain.

“Bydd Rhif 10 The Circle yn darparu cyfleusterau ychwanegol i’r ardal ac yn hwb i ddatblygiad economaidd y Fwrdeistref trwy hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gadw cyswllt â’r gorffennol trwy’r Ganolfan Dreftadaeth.

“Bydd y cyfleuster yn gwneud gwahaniaeth i fywyd lleol, a dymunaf bob llwyddiant iddynt.”

Ychwanegodd Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo:

“Prynwyd yr adeilad hwn oherwydd ei bwysigrwydd aruthrol i hanes Tredegar a’r GIG a’i botensial fel Canolfan Dreftadaeth fydd yn adrodd stori dda ac yn helpu i adfywio canol y dref.

“Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, mae cyfleuster ardderchog wedi’i ddatblygu sy’n dangos yr hyn y gellir ei wneud trwy gyd-fuddsoddi ac o gael y gymuned i weithio gyda’i gilydd.”