Fe fydd y gwaith o frechu holl boblogaeth Prydain yn cychwyn yr wythnos nesaf wrth i frechlyn Covid-19 gan Brifysgol Rhydychen ac AstraZeneca gael ei gymeradwyo.
Cafodd y brechiad y golau gwyrdd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) y bore yma (dydd Mercher 30 Rhagfyr).
Maen nhw wedi dod i’r casgliad fod y brechlyn wedi cyrraedd y safonau angenrheidiol o ran diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd.
“Mae’n deyrnged i’r gwyddonwyr anhygoel ym Mhrifysgol Rhydychen ac AstraZeneca a fydd yn helpu achub bywydau ledled y byd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock.
Mae llywodraeth Prydain wedi archebu 100 miliwn dos o’r brechlyn – digon i frechu 50 miliwn o bobl.
Fe fydd angen dau frechiad ar bobl, ond gall fod hyd at 12 wythnos rhwng y ddau, felly’r flaenoriaeth fydd rhoi’r brechiad cyntaf i hynny ag sy’n bosibl o bobl i ddechrau. Fe fydd y rhaglen frechu’n dilyn trefn flaenoriaethu a oedd wedi ei chytuno eisoes o ran cychwyn gyda’r oedrannau hynaf a’r bobl fwyaf bregus.
25,000 wedi eu brechu yng Nghymru
Wrth groesawu’r newyddion fod y brechlyn wedi ei gadarnhau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod 25,000 o bobl eisoes wedi eu brechu yng Nghymru, ac y bydd brechlyn Rhydychen ac AstraZeneca yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd.
Er hyn, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn rhybuddio na fydd yr effaith i’w weld am rai misoedd.
“Rhaid inni fod yn realistig pan ydym yn brechu’r holl boblogaeth sy’n oedolion,” meddai. “Fe fydd y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn parhau drwy’r gaeaf. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i chwarae ein rhan a gwneud y peth iawn i ddiogelu’n gilydd.”