Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd “cytundeb gwan a siomedig” Brexit yn gwneud masnach gyda’n marchnadoedd Ewropeaidd pwysicaf yn ddrutach a mwy anodd o hyn ymlaen.

“Mae methu cynnwys mynediad i’r Farchnad Sengl ar gyfer gwasanaethau’r Deyrnas Unedig yn golygu y bydd rhaid i fusnesau ddibynnu ar 27 set wahanol o reolau cenedlaethol i fasnachu ar draws yr Undeb Ewropeaidd, lle mae ganddynt un heddiw,” meddai.

“I’n dinasyddion, mae’n golygu ciwiau mewn meysydd awyr; fisa ar gyfer ymweliadau hirach; galwadau ffôn symudol drutach a llai o bobl o’r UE yn gallu gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, yn gofalu am bobl sydd angen help.

“I’n pobl ifanc, mae’n golygu fandaliaeth ddiwylliannol drwy eu torri o raglen Erasmus+, y mae pobl o Gymru wedi gwneud cymaint i ddylanwadu arni a’i meithrin. Mae hefyd yn gwadu dyfodol iddynt lle gallant fyw a gweithio’n rhydd ar draws cyfandir Ewrop gyfan.”

Y Senedd yn trafod

Fe fydd Mark Drakeford yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r cytundeb masnach rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd mewn cyfarfod arbennig o’r Senedd y pnawn yma – yr un pryd ag y bydd y cytundeb yn cael ei drafod yn San Steffan.

Mae cynnig Llywodraeth Cymru’n gresynu nad yw’r Senedd “mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol” i’r cytundeb. Mae hyn “gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i’r Senedd a’i fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.”

Mae Llywodraeth yr Alban fodd bynnag wedi datgan ei bwriad i wrthod cydsyniad deddfwriaethol i’r cytundeb.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles:

“Nid dyma’r cytundeb y galwodd Llywodraeth Cymru amdano neu y byddai wedi’i drefnu. Ond mae’n well na thrychineb dim cytundeb ac mae’n rhoi llwyfan i ni ar gyfer trafod trefniadau gwell yn y dyfodol.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r holl bartneriaid, busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i helpu i lywio a pharatoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a’r berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd.”