Mae’r dylunydd ffasiwn byd-enwog Pierre Cardin wedi marw’n 98 oed.

Mae’n cael y clod am chwyldroi ffasiwn yn yr 1960au a’r 70au gyda’i dduliau avant-garde a’i hoffter o batrymau geometraidd.

Cafodd ei eni’n Pietro Constante Cardin i deulu cyfoethog yn yr Eidal yn 1922 ond fe wnaethon nhw ddianc i Ffrainc rhag cyfundrefn ffasgaidd Mussolini.

Dechreuodd ar ei yrfa yn 14 yn gweithio fel prentis teiliwr, a gadawodd ei gartref yn 1939 i weithio i deiliwr yn Vichy, lle cychwynnodd wneud siwtiau i ferched.

Symudodd i Paris yn ddiweddarach gan weithio i dai ffasiynau Paquin a Dior cyn lansio ei brand ei hun.