Mae gwerth cyfranddaliadau prif gwmnïau Prydain wedi codi’n gyflym y bore yma, wrth i’r marchnadoedd arian agor am y tro cyntaf ers cadarnhau’r cytundeb Brexit rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae mynegai’r FTSE 100 wedi dringo 2.3% i lefel uwch nag mae wedi bod ers cychwyn y pandemig.
Mae cyfranddaliadau’r cwmni fferyllol AstraZeneca wedi gwneud enillion cryf yn sgil gobaith cynyddol y bydd ei frechiad, sy’n cael ei greu ar y cyd ganddyn nhw a Phrifysgol Rhydychen, yn cael ei gymeradwyo’n fuan.
Ar y llaw arall, mae cyfranddaliadau rhai o’r prif fanciau’n dal i ddisgyn yn sgil pryderon am yr economi.
Dywed Russ Mould, cyfarwyddwr buddsoddi’r cwmni ariannol AJ Bell, fod y marchnadoedd fel pe baen nhw’n “croesawu’r cytundeb Brexit”.
“Gallai rhaglen frechu lwyddiannus greu twf mewn buddsoddi corfforaethol a gwariant preifat, gan arwain at adfywiad economaidd cyflym, yn enwedig bellach wrth i rywfaint o ansicrwydd Brexit glirio,” meddai.