Mae penderfyniad arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, i gefnogi cytundeb Brexit Boris Johnson yn y Senedd yr wythnos yma wedi cythruddo amryw o Aelodau Seneddol ei blaid.
Ymysg y rheini sydd wedi arwyddo datganiad yn galw ar y gwrthbleidiau i beidio â chefnogi’r cytundeb, mae cyn-ganghellor yr Wrthblaid John McDonnell a’r cyn-weinidog cabinet Ben Bradshaw.
Dywed Keir Starmer ei fod yn galw ar ei ASau i gefnogi’r cytundeb “tenau” oherwydd y byddai bod heb gytundeb o gwbl yn waeth fyth.
Mae’r rheini sy’n anghytuno ag ef, fodd bynnag, yn dweud na ddylen nhw gefnogi cytundeb mor ddiffygiol ac y dylen nhw ymatal yn lle hynny.
Er bod y datganiad ganddyn nhw wedi cael ei drefnu gan ddwy garfan ar adain chwith y blaid, mae’n cael cefnogaeth carfannau eraill yn ogystal, gan gynnwys y cyn-weinidog yr Arglwydd Adonis, a oedd yn gefnogwr i Tony Blair.
Yn ôl y datganiad, dyletswydd gwrthblaid yw sicrhau craffu seneddol trylwyr a chynnig dewis arall.
“Mae’r dasg honno’n mynd yn galetach os yw gwrthbleidiau yn disgyn i’r fagl o gefnogi’r cytundeb pwdr hwn,” medd y datganiad.
“Rydym yn dystiol i weithred o fandaliaeth yn erbyn ein bywoliaethau, ein hawliau a’n gorwelion. Galwn ar Lafur, y mudiad Llafur a gwrthbleidiau eraill i beidio â chefnogi cytundeb Brext i Torïaid pan ddaw’r bleidlais yn Nhy’r Cyffredin.”
Fe fydd ASau’n pleidleisio ar y cytundeb yfory, a hyd yma, Llafur yw’r unig un o’r gwrthbleidiau sydd wedi mynegi eu cefnogaeth iddo.