Mae rhybudd melyn am eira a rhew mewn grym yn y rhan fwyaf o Gymru, gyda rhagolygon a ragor o dywydd gaeafol yfory a dydd Iau.
Daw hyn wrth i rannau helaeth o Loegr a de’r Alban gael eu taro’n ddrwg dros nos, gyda gyrwyr yn cael eu rhybuddio bod y ffyrdd yn beryglus yno.
Wrth i dywydd gwlyb chwythu o’r de-orllewin ac oeri wrth symud tua’r dwyrain, dywed y Swyddfa Dywydd y gallai 2 i 5cm o eira ddisgyn ar draws rhannau helaeth o dde Cymru, canolbarth a de Lloegr dros y ddeuydd nesaf.
Mae’r tywydd gwlyb wedi arwain at rybuddion am lifogydd hefyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd coch – ar afon Ritec yn Ninbych y Pysgod ac afon Dyfrdwy islaw Llangollen. Mae rhybuddion melyn wedi eu cyhoeddi ar gyfer de Sir Benfro, dalgylch afon Ddawan ym Mro Morgannwg, afon Gwy yn sir Fynwy a blaenau afon Hafren ym Mhowys.