Mae gobaith y bydd gan Ysbyty Treforys ger Abertawe ei fferm ynni haul ei hun ymhen dwy flynedd a fydd yn helpu arbed £1.6 miliwn i’r bwrdd iechyd lleol.

Bwriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw datblygu’r fferm solar 4MW ar fferm Brynwhilach, a fydd â gwifren breifat 3km o hyd yn ei chysylltu â’r ysbyty.

Mae’r cynllun yn rhan o becyn o fesurau a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu tri bwrdd iechyd yn y de i arbed ynni a lleihau ôl-troed carbon. Fe fydd y byrddau iechyd – Bae Abertawe, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda – yn derbyn cyfanswm o £10 miliwn o arian ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd hyn yn gallogi’r tri bwrdd i gyflwyno cynlluniau arbed ynni yn eu holl adeiladau, a fydd yn cynnwys paneli solar ar holl adeiladau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y gorllewin.

“Mae mesurau fel y rhain sy’n helpu’n hysbytai i ddefnyddio llai o ynni yn aruthrol o bwysig ac mae’n dda gen i fod fy nghyd-weinidogion a finnau’n gallu cyhoeddi’r arian hwn heddiw,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Wrth groesawu’r gefnogaeth ariannol, meddai Emma Wollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae ein bwrdd iechyd o ddifrif ynghylch ei gyfrifoldebau am genedlaethau’r dyfodol trwy leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn arbennig trwy leihau ein hôl troed carbon.

“Rwyf wrth fy modd bod staff ein hystadau’n cael eu gwobrwyo am eu hymrwymiad a’u gwaith caled trwy fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd yn wyrdd mewn ffordd mor arloesol ac ymarferol.

“Mae lleihau ein hôl troed carbon a thorri costau yn fuddugoliaeth ddwbl i’r bwrdd iechyd, i’n cleifion a’r trethdalwyr.”