Mae llywodraeth Ethiopia dan y lach am arestio newyddiadurwyr, wrth i ymgyrchwyr brotestio yn erbyn ymdrechion i atal rhyddid barn yn y wlad.

Cafodd Kumerra Gemechu, newyddiadurwr fideo Reuters, ei arestio yn ei gartref yn Addis Ababa ar Ragfyr 24, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa am bythefnos, yn ôl adroddiadau.

Dywed Reuters nad oes cyfiawnhad dros ei gadw yn y ddalfa.

Fe ddaw ar ôl i Tiksa Negari, ffotograffydd yr asiantaeth newyddion, gael ei guro gan yr heddlu ffederal ar Ragfyr 16.

Mae wyth o newyddiadurwyr wedi cael eu harestio yn Ethiopia eleni ac mae wyth arall wedi’u harestio yng Nghamerwn, tra bod 16 wedi’u carcharu yn Eritrea.

Bydd newyddiadurwr arall, Dawit Kebede, yn mynd gerbron llys heddiw ar ôl cael ei arestio ar Dachwedd 30.