Mae cannoedd o bobol o wledydd Prydain yn dod adref o’r Swistir o ganlyniad i’r amrywiad newydd ar y coronafeirws sydd wedi’i ganfod yn y wlad.
Yn ôl llywodraeth y wlad, mae’n “sefyllfa amhosib” yno erbyn hyn.
Ar Ragfyr 21, fe wnaeth Llywodraeth y Swistir orchymyn pobol oedd wedi cyrraedd y wlad o wledydd Prydain a De Affrica ers Rhagfyr 14 i hunanynysu am ddeng niwrnod.
Roedd hediadau hefyd wedi’u gohirio am rai diwrnodau.
Yn ôl y wasg yn y Swistir, fe wnaeth oddeutu 200 o bobol o wledydd Prydain adael eu gwyliau sgïo yn Verbier ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 27), a hynny cyn i’w cyfnod cwarantîn ddod i ben.
Y gred yw fod y bobol hynny wedi mynd adref, ond all Llywodraeth y Swistir ddim bod yn sicr o hynny, meddai llefarydd.